Prentis Grip – BBC Cymru Wales

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Cwmni:                      BBC Cymru Wales
Rôl Prentisiaeth:      Prentis Grip
Lleoliad:                    Porth y Rhath, Bae Caerdydd

Am y Sefydliad

BBC_Cymru_Wales_logo.svgDarlledwr y genedl yw BBC Cymru Wales, yn cynnig ystod eang o ddarpariaeth yn y Gymraeg a Saesneg ar gyfer cynulleidfaoedd ledled Cymru ar y teledu, y radio a thrwy ein gwefannau.

Porth y Rhath yw canolfan ragoriaeth gwbl fodern y BBC ar gyfer Drama, lleoliad sy’n fwrlwm o ynni a doniau newydd. Pan symudodd y cynyrchiadau cyntaf i Borth y Rhath ym Medi 2011, fe wnaethant wireddu un o addewidion y BBC i greu canolfan ragoriaeth ar gyfer Drama yng Nghaerdydd.

Mae’r cyfleuster 170,000 troedfedd sgwâr hwn a leolir ym Mhorth Teigr, Bae Caerdydd, sy’n cynnwys naw stiwdio ac sydd yr un hyd â thri chae pêl-droed, yn awr yn gartref parhaol, at y pwrpas i bedair o brif ddramâu’r BBC – Casualty, Pobol y Cwm, Doctor Who – yn ogystal ag i gynyrchiadau newydd i’r dyfodol.

Disgrifiad Swydd

Cyfrifoldeb grip yw i adeiladu a chynnal yr holl offer sy’n cefnogi’r camerâu.

Yr offer, sy’n cynnwys trybeddau, dollies (y llwyfan ar olwynion sy’n cario’r camera a’r Gweithredydd Camera), traciau, breichiau, craeniau, a rigiau sefydlog fod mor sylfaenol â trybedd yn sefyll ar lawr y stiwdio, i weithrediadau peryglus fel mowntio camera ar graen 100 troedfedd.

Mae’r grip yn gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr, Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth (CFf) a’r Gweithredwr Camera i sicrhau bod pob lleoliad neu symudiad o gamerâu yn gyraeddadwy.

Yn ystod y dyddiau saethu, mae’r grip a’u tîm yn cyrraedd yn gynnar ac yn dadlwytho’r holl offer, ac yn sicrhau bod popeth yn cael ei baratoi ar gyfer ffilmio.

Dylai grip fod yn barod cyn gynted ag mae’r camera yn dechrau rholio, ac mae’n rhaid iddynt ragweld yr holl symudiadau camera, tra hefyd yn cadw mewn cof y paratoadau angenrheidiol ar gyfer y set-up camera nesaf. Ar ddiwedd pob dydd, mae grip yn goruchwylio’r pacio i fyny o’r holl offer gymorth camera.

Er bod y gwaith yn gorfforol, mae’r oriau yn hir ac weithiau yn cael eu perfformio ar leoliad ar dir eithafol a/neu dywydd garw, mae’r gwaith yn gallu bod yn werthfawr iawn.

Enghreifftiau o’r swyddi y gallai prentis grip ei wneud yn y dyfodol –

  • Cynorthwy-ydd Grip
  • Grip
  • Cynorthwy-ydd Camera
  • Gweithredwr Camera

Pa fath o berson sydd angen i mi fod?

  • Yn gorfforol ystwyth
  • Y gallu i weithio fel rhan o dim
  • Technegol
  • Hynod hyblyg
  • Ymarferol

Sgiliau Anghenrheidiol:

  • Efo’r menter a’r gallu i ymateb yn gyflym i sefyllfaoedd gwahanol
  • Gallu gydweithio ac weithio fel rhan o dîm
  • Diplomyddiaeth a sensitifrwydd wrth weithio gydag artistiaid a chriw arall
  • Lefel uchel o egni corfforol a chryfder
  • Oherwydd mae grip angen codi a thynnu offer trwm, mae angen bod yn ymwybodol o ofynion y ddeddfwriaeth a’r gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch perthnasol
  • Bydd trwydded yrru lân yn ddymunol

Cymwyseddau Cyffredinol

  • Gwaith tîm – Gweithio’n effeithiol iawn fel rhan o dîm; yn gweithio er budd y tîm cyfan
  • Rheoli cydberthnasau – Gallu creu a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol ag amrywiaeth o bobl.
  • Cyfathrebu – Y gallu i gyfleu neges yn glir drwy fabwysiadu amrywiaeth o arddulliau, dulliau a thechnegau sy’n briodol i’r gynulleidfa ac i natur y wybodaeth
  • Dylanwadu a darbwyllo – Y gallu i gyflwyno dadleuon cadarn ac wedi’u rhesymu’n dda i ddarbwyllo pobl eraill. Gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddarbwyllo pobl mewn ffordd sy’n arwain at gytundeb neu newid ymddygiad
  • Cynllunio a threfnu – Yn gallu bod yn flaengar er mwyn sefydlu dull gweithredu effeithiol a phriodol i chi’ch hun ac eraill. Yn blaenoriaethu ac yn cynllunio gweithgareddau gan ystyried yr holl faterion a ffactorau perthnasol megis terfynau amser, gofynion staffio ac adnoddau.
  • Meddwl yn Greadigol – Yn gallu troi syniadau/ysgogiadau creadigol yn realiti ymarferol. Yn gallu edrych ar sefyllfaoedd a phroblemau presennol mewn ffyrdd newydd a chreu datrysiadau creadigol.
  • Dyfalbarhad – Yn gallu rheoli effeithiolrwydd personol drwy reoli emosiynau yn wyneb pwysau, rhwystrau neu wrth ddelio â sefyllfaoedd cythruddol. Yn gallu dangos ymagwedd at waith a nodweddir gan ymrwymiad, cymhelliant a brwdfrydedd.
  • Ysgogiad – Yn dangos ymrwymiad, cymhelliant ac egni.
  • Hunanddatblygiad – Yn dangos cryfderau personol ac anghenion datblygu, ac yn ceisio gwella perfformiad yn barhaus drwy feithrin sgiliau a dysgu ymddygiad newydd.
  • Hyblygrwydd – Yn addasu a gweithio’n effeithiol gydag unigolion, grwpiau neu mewn sefyllfaoedd amrywiol. Yn gallu deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol a gwrthwynebol ar fater, addasu dull o weithredu wrth i ofynion sefyllfa newid, a derbyn newidiadau yn eich sefydliad eich hun neu ofynion eich swydd yn hawdd.

Fframwaith

Tra’n gweithio i BBC byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.

CYSYLLTWCH GYDA NI | CONTACT US