Mae pecyn Movie Magic Budgeting yn feddalwedd safon diwydiannol ar gyfer cynhyrchu Teledu. Wedi’i gefnogi gan Creative Skillset, mae’r gweithdy yma’n cynnig cyflwyniad cynhywsfawr i’r meddalwedd, trwy arfogi hyfforddeion gyda’r wybodaeth a’r sgiliau bydd yn ei gosod ar y llwybr at swyddi fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol 1af a Rheolwr Cynhyrchu. Wedi’i gyflwyno gan Gynhyrchydd Llinell yn Pinewood Studio Cymru, mae’r gweithdau Sgiliau Teledu yma yn rhan hanfodol o ddatblygu gyrfa.
Cynnwys y cwrs
- Trosolwg o EP Movie Magic Budgeting
- Cyflwyniad at Gyllidebu
- Sefydlu eich fformat Cyllidebu
- Rheolaethau Sylfaenol
- Top Sheet, Lefel Cyfrif, a Lefel Manyldeb
- Ymarfer mewn ‘Globals’, Grwpiau a ‘Fringes’
- Arian Cyfred
- Egwyddorion ac Arferion Cyllidebu
- Adrodd Nol/Printio
Tiwtor Cwrs
Gareth Davies
Mae Gareth yn Reolwr Llinell/Rheolwr Cynhyrchu Ffilm profiadol, gyda chredydau yn cynnwys ffilm a enwebwyd am wobr BIFA, ac ennillydd BAFTA – ‘THE PASSING’, ffilm cyntaf Craig Roberts fel Cyfarwyddwr – ‘JUST JIM’, ‘PANIC BUTTON’, ‘THE CHAMBER’, ‘B&B’, ‘DON’T KNOCK TWICE’, a ‘WATCHER IN THE WOODS’. Cynhyrchodd Gareth ‘THE SLEEPING ROOM’, sef ffilm cynta’r DU a ariennir gan ‘crowdfunding’. Mae Gareth yn gweithio ar y cyd gyda llawer o gynhyrchwyr enwog rhyngwladol a’r DU, drwy greu cyllidebau. Mae’ hefyd yn hyfforddwr ‘Movie Magic Scheduling’ a ‘Movie Magic Budgeting’, ar gyfer sawl Prifysgol a chwmni hyfforddiant.
Pryd oedd y cwrs?
Cynhaliwyd y cwrs deuddydd ar ddydd Gwener 24ain Mawrth, a dydd Sadwrn 25ain Mawrth 2017.
Dyma beth oedd gan fynychwyr blaenorol i ddweud:
“Lleoliad gret a deuddydd o hyfforddiant gret!”
“Roedd yn wych i fedru gofyn cwestiynau fel a phryd. Roedd y tiwtor yn addysgiadol iawn!”
“2 diwrnod yn berffaith.”
“Mae grŵp bychan yn gweithio’n dda iawn.”
“Roeddwn i’n hapus iawn efo’r cwrs.”
Cliciwch yma i weld ein cyrsiau arall mewn hyfforddiant Ffilm a Theledu.
Mae’r rhaglen yma’n wedi’i gefnogi gan levy Teledu o Safon Uchel Creative Skillset.