Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.
Cwmni: S4C
Rôl Prentisiaeth: Prentis Archif
Lleoliad: Caerdydd
Am y Sefydliad
S4C yw’r unig sianel deledu Cymraeg yn byd. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, mae’n comisiynu cwmnïau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru i wneud y rhan fwyaf o’i raglenni. Mae ITV Cymru hefyd yn cael ei gomisiynu i gynhyrchu rhaglenni. Mae BBC Cymru yn cynhyrchu tua deg awr yr wythnos o raglenni ar gyfer S4C, gan gynnwys y newyddion a’r ddrama ddyddiol Pobol y Cwm, wedi’u hariannu o ffi’r drwydded.
Mae S4C yn darlledu dros 115 awr o raglenni bob wythnos – o chwaraeon, drama a cherddoriaeth i ffeithiol, adloniant a digwyddiadau – ar wahanol llwyfannau, gan gynnwys y we. Mae S4C yn cynnig gwasanaethau helaeth ar gyfer plant: Cyw ar gyfer y gwylwyr iau, Stwnsh ar gyfer plant hŷn a rhaglenni ar gyfer plant a phobl ifanc yn eu harddegau. Ac mae’r rhaglenni ar gael mewn HD ar Sky a Freesat yng Nghymru ac ar draws y DU.
Disgrifiad Swydd
Gweithio gyda gwasanaethau llyfrgell S4C, o dan arweiniad y goruchwylydd, i drefnu amserlen ar gyfer digido’r archif
Trefnu trosglwyddo tapiau fideo o’r llyfrgell i’r ardal ddigido ac, ar ôl cwblhau’r gwaith digido, trefnu dychwelyd y tapiau i’r llyfrgell.
Gweithredu’r amserlen ddigido ddyddiol.
Darparu gwiriad gweledol a chofnodi unrhyw broblemau sy’n codi yn y broses o ddigido’r cynnwys.
Hysbysu’r goruchwylydd ynghylch unrhyw broblemau sy’n dod i’r amlwg yn y gwiriad gweledol.
Llwytho’r tapiau fideo i’r system ddigido.
Rhoi codau bar ar y tapiau.
Gosod y codau amser ‘In’ ac ‘Out’ angenrheidiol.
Goruchwylio’r 6 sianel lwytho.
Yn dilyn blwyddyn o brentisiaeth ac, os ydych yn cwblhau’r flwyddyn yn llwyddiannus ac yn ennill y cymhwyster angenrheidiol ac os oes yna angen o hyd i gyflenwi cynnwys ar gyfer y gwasanaeth digido ac archifo, yna mae’n bosib y gellir cynnig swydd dan hyfforddiant am ail flwyddyn.
Sgiliau Dymunol ond nid Angenrheidiol
- Siarad Cymraeg
Fframwaith
Tra’n gweithio i S4C byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.