Prentis Cynorthwy-ydd Marchnata a Gweinyddol – Introbiz

Cwmni:                                   Introbiz UK Ltd
Rôl Prentisiaeth:                 Prentis Cynorthwy-ydd Marchnata a Gweinyddol
Lleoliad:                                 Caerdydd

Am y Sefydliad

logoMae Introbiz yn un o’r rhwydweithiau busnes ucha’ ei barch yn Ne Cymru, gan gynnal digwyddiadau rhwydweithio wythnosol yn ogystal ag arddangosfa busnes fwya’ Cymru bob Hydref.

Mae Introbiz yn ymfalchïo yn ein gallu i ddenu rhai o frandiau mwya’r DU ac yn Rhyngwladol fel aelodau a phartneriaid, sy’n golygu ein bod yn gallu cysylltu cwmnïau BBaC (bach a chanolig) gyda chorfforaethau mawr yn ystod ein digwyddiadau rhwydweithio wythnosol.

Mae rhwydwaith busnes Introbiz yn cynnwys cannoedd o aelodau, 300 o arddangoswyr a miloedd o ymwelwyr â’n digwyddiadau busnes.

Disgrifiad Swydd

Byddwch yn cydlynu’r holl ddyletswyddau marchnata a gweinyddol sy’n gysylltiedig â digwyddiadau wythnosol Introbiz UK LTD yn ogystal â’r Introbiz Business Expo. Mae profiad o gynnal gwefannau a diweddaru safleoedd cyfryngau cymdeithasol yn hanfodol.

Bydd gennych sgiliau rheoli amser rhagorol a byddwch yn gallu cyfathrebu’n effeithiol, gan ddefnyddio eich sgiliau i ddatblygu perthynas waith effeithiol gyda’n cleientiaid dros y ffôn, yn ogystal ag wyneb yn wyneb yn ystod ein cyfarfodydd rhwydweithio wythnosol.

Dyletswyddau

  • Cysylltu â chleientiaid yn wythnosol a chymryd archebion ar gyfer digwyddiadau Introbiz UK Ltd.
  • Cynnal a datblygu cysylltiadau drwy gyswllt ffôn rheolaidd gyda chleientiaid Introbiz UK Ltd a chynyddu gwerthiannau drwy hyrwyddo’r digwyddiadau a’r gwasanaethau sydd ar gael
  • Cynnal a diweddaru gwefannau a safleoedd cyfryngau cymdeithasol sy’n hysbysebu digwyddiadau a gwasanaethau Introbiz
  • Mynychu cyfarfodydd rhwydweithio wythnosol a chynorthwyo gyda threfnu bob digwyddiad. Gall hyn gynnwys gweithio tu allan i oriau gwaith arferol.
  • Mynychu digwyddiadau rhwydweithio sydd ddim wedi eu trefnu gan Introbiz
  • Mynychu ein Sioe Fusnes flynyddol a’r parti VIP ar ôl y digwyddiad

O bryd i’w gilydd gofynnir i chi gyflawni dyletswyddau achlysurol sydd ddim wedi eu nodi uchod ond sy’n gydnaws â’r swydd

Gofynion ymgeisydd:

Hanfodol

  • Addysg TGAU & Lefel A
  • Profiad ysgrifennu
  • 1-2 mlynedd o brofiad gweinyddol blaenorol
  • Cyfarwydd â meddalwedd Excel a Word
  • Cynnal a diweddaru gwefan Introbiz UK Ltd
  • Profiad blaenorol mewn cynnal gwefannau cyfryngau cymdeithasol megis Twitter, LinkedIn a Facebook.
  • Gallu i weithio tu allan i oriau swyddfa arferol 9am-5pm

Dymunol

  • Profiad o weithio o fewn amgylchedd werthiant ddwys
  • Profiad o weithio mewn rôl sy’n seiliedig ar berthynas â chleientiaid
  • Profiad blaenorol o drefnu digwyddiadau a chydweithio gyda chwmnïau digwyddiadau a chyflenwyr lletygarwch

Hysbyseb

Mae Introbiz UK Ltd yn gwmni rhwydweithio uchel ei barch sy’n gweithredu ledled De Cymru gan ddelio â mentrwyr gwerth uchel, perchnogion busnesau a chleientiaid corfforaethol..

Mae eu digwyddiadau wythnosol pwrpasol yn dod a dylanwadwyr allweddol o wahanol ddiwydiannau yn Ne Cymru a’r DU at ei gilydd mewn awyrgylch rwydweithio anffurfiol.

Maen nhw hefyd yn cynnal sioe ac arddangosfa fusnes flynyddol fwya’ Cymru yng Nghaerdydd gyda dros 3500 o ymwelwyr.

Yn unol â phenderfyniad y cwmni i ddatblygu a thyfu, mae swydd llawn amser ar gyfer Cynorthwy-ydd Marchnata a Gweinyddol wedi codi.

Mae hyn yn gyfle gwych i unigolyn gyda chefndir marchnata, digwyddiadau a gweinyddol yn ogystal â sgiliau cyfathrebu gwych, i ymuno a thîm Introbiz UK Ltd.

Mae profiad blaenorol mewn amgylchedd gwerthiant/gweinyddol yn hanfodol. Bydd dyletswyddau swyddfa yn cynnwys codi anfonebau, cynnal y system rheoli credyd, a chydweithio’n ddyddiol gyda chleientiaid Introbiz UK Ltd. Mynychu a chynorthwyo gyda threfnu digwyddiadau wythnosol Introbiz Ltd.

Bydd mynychu digwyddiadau rhwydweithio er mwyn annog pobol newydd i fynychu digwyddiadau rhwydweithio Introbiz yn rhan o’r rôl yma. Bydd treuliau rhwydweithio a theithio yn cael eu talu gan Introbiz UK Ltd.

Mae hon yn swydd lawn amser 38 awr yr wythnos. Rhaid i’r unigolyn fod yn barod i weithio’n hyblyg gan gynnwys oriau ychwanegol pan fo’r angen, a rhai nosweithiau.

Mae trwydded yrru lân a char yn hanfodol.

Fframwaith

Tra’n gweithio Introbiz UK Ltd, byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 15 mis Lefel Uwch (4) mewn Hysbysebu a Cyfathrebu Marchnata.

CYSYLLTWCH GYDA NI | CONTACT US