Prentis Cynorthwy-ydd Castio – Regan Management

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Cwmni:                      Regan Management
Rôl Prentisiaeth:      Prentis Cynorthwy-ydd Castio
Lleoliad:                    Caerdydd

Am y Sefydliad

Regan logoRoedd Leigh-Ann Regan yn un hanner o Regan Rimmer Management rhwng 2001 a 2014. Cafodd Regan Management ei eni yn 2014 ac mae ganddyn nhw swyddfeydd yn Llundain a Manceinion ac maent wedi ehangu y swyddfa bresennol yng Nghaerdydd i gynnwys stafell  gastio a chwaer-gwmnïau.

Disgrifiad Swydd

Mae’r rôl yma yn galw am wybodaeth a diddordeb mewn theatr, ffilm a theledu.

Prif Ddyletswyddau:

  • Chwilio am actorion, teipio rhestrau a bwcio actorion ar gyfer clyweliadau gydag amryw o gyfarwyddwyr led-led y wlad yn ogystal a thramor.
  • Ffilmio clyweliadau actorion gydag ein camera digidol a stiwdio cyn eu danfon dramor ac i Lundain.
  • Ateb y ffôn i actorion a dyletswyddau swyddfa a gweinyddol cyffredinol.

Sgiliau Anghenrheidiol:

  • Sgiliau cyfathrebu
  • Sgiliau gweinyddu a threfnu
  • Ysbryd tîm
  • Agwedd bositif

Fframwaith

Tra’n gweithio i Regan Management byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.