Prentis Cynorthwy-ydd Telewerthu – Business News Wales

Cwmni:                                  Business News Wales
Rôl prentisiaeth:                Prentis Cynorthwy-ydd Telewerthu
Lleoliad:                                Caerdydd

Am y sefydliad

business-news-21-e14332475227281Busnes cyhoeddi annibynnol Cymraeg yw Business News Wales. Mae’r tîm tu ôl i Busnes News Wales wedi dosbarthu dros 40,000 o straeon newyddion Busnes-i-fusnes gorau’r DU ers 2012, i gyd o fewn y marchnadoedd Technoleg, Adnoddau Dynol a Recriwtio. Mae gennym brofiad helaeth o dyfu cyrhaeddiad marchnad ar gyfer dros 150 o wahanol fusnesau yn y DU ac yn Rhyngwladol dros y tair blynedd ddiwetha’.

Disgrifiad Swydd

Ystod y Swydd

Rydym yn chwilio am Gynorthwy-ydd Telewerthu uchelgeisiol i weithredu nifer o dasgau gwerthiant a chynyddu cwsmeriaid. Rydym yn chwilio am aelod tîm brwdfrydig sydd ag awydd cryf i lwyddo. Gan fod ein busnes cyfryngau yn tyfu’n gyflym, mae cyfle gwirioneddol i chi ddatblygu eich rôl.

Amlinelliad o’r swydd

Rydym yn chwilio am Gynorthwy-ydd Telewerthu brwdfrydig i ymuno â’r cwmni.

Mae’r rôl yn gofyn i chi e-bostio a gwneud galwadau busnes-i-fusnes i gwsmeriaid sy’n bodoli eisoes yn ogystal â chwsmeriaid newydd.

Bydd angen i chi allu rheoli ffynhonnell gwerthiant gadarn gan greu cyfleoedd a chynyddu galw cwsmeriaid am ein cynnyrch drwy alwadau diwahoddiad a chyfeirio cwsmeriaid i’n gwefan, neu adnoddau eraill y cwmni am wybodaeth.

  • Caiff targedau eu gosod gan eich Rheolwr Llinell yn nhermau cyfraddau galwadau, gwasanaethau ymateb a’r nifer o gwsmeriaid a helpwyd yn ogystal â’r cyfanswm incwm crynswth a sicrhawyd
  • Cysylltu â chwsmeriaid dros y ffôn neu e-bost er mwyn sicrhau gwerthiannau cynnyrch neu wasanaethau
  • Cael gafael ar enwau a rhifau ffôn cwsmeriaid cyfredol a newydd o amrywiaeth o ffynonellau
  • Cynnal a rheoli ffynhonnell gwerthiant cadarn
  • Cynnal gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o holl gynnrych Business News Wales a darparu gwybodaeth briodol i gwsmeriaid drwy ddeall eu hanghenion busnes
  • Cadw cofnodion o’r cyswllt a wnaed gyda chwsmeriaid yn ogystal â chyfrifon ac archebion
  • Adrodd yn fisol ar y gwerthiannau a ddisgwylir ar draws y gwahanol gynnyrch ynghyd â diweddariadau a rhagolwg wythnosol ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (KPI’s).
  • Cydweithio ar draws bob rhan o’r busnes er mwyn cadw’r sianelau cyfathrebu’n agored. Rhaid cael agwedd rhagweithiol a phositif
  • Cynnal agwedd ragorol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer a hyn gyda chwsmeriaid a staff, gan gyflawni bob gweithred a gytunwyd mewn modd amserol.

Bydd rhan allweddol o’r rôl hefyd yn ymwneud â dod o hyd i gynnwys ar gyfer y sianelau cyhoeddi busnes ac adnabod cyfleoedd o’r cynnwys hyn.

Sgiliau

  • Sgiliau cyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig ardderchog
  • Sgiliau negydu ardderchog
  • Gallu gwerthu profedig
  • Cynllunio a blaenoriaethu
  • Trefnu a rheoli amser
  • Gallu i ddilyn gweithdrefnau gweithredol
  • Lefel uchel o gymhelliant personol
  • Gallu mynegi’ch hunan yn glir
  • Dymunol

Ymddygiad

  • Cwrtais, proffesiynol a dyfalbarhaus
  • Gonestrwydd proffesiynol ac ymwybyddiaeth gyffredinol dda
  • Gallu i amldasgio
  • Hunan-hyderus a dyfeisgar
  • Agwedd bositif
  • Agwedd Digyffro a digynnwrf
  • Deinamig ac arloesol
  • Cyfrinachedd a disgresiwn

Fframwaith

Tra’n gweithio i Business News Wales byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 15 mis Lefel Uwch (4) mewn Hysbysebu a Cyfathrebu Marchnata.