Prentis Cynorthwy-ydd Tîm – Sgil Cymru

Cwmni:                       Sgil Cymru
Rôl Prentisiaeth:      Prentis Cynorthwy-ydd Tîm
Lleoliad:                     Pinewood Studio Cymru, Caerdydd

Am y Sefydliad

Wedi’i leoli yn Pinewood Studio Cymru yng Nghaerdydd, mae gan y tîm fwy na 100 mlynedd o brofiad mewn hyfforddiant a chynhyrchu dwyieithog yn y cyfryngau rhyngddynt. Mae aelodau o dîm Sgil Cymru wedi hyfforddi dros 100 o brentisiaid trwy gyd-weithio gyda chwmnïau ar draws de Cymru, gan gynnwys BBC Cymru Wales, Equinox Communications, Golley Slater, ITV Cymru Wales, Real SFX, Amplified Business Content ac S4C. Trwy bartneriaeth gyda Creative Skillset, mae Sgil Cymru yn cyflwyno pecyn o gyrsiau hyfforddi ar gyfer y diwydiant ffilm a theledu.

Disgrifiad Swydd

Rydym yn chwilio am Brentis Cynorthwy-ydd Tîm dwyieithog i ymuno â’n tîm prysur yn Sgil Cymru, i ddarparu gwasanaeth cefnogol effeithiol i’r staff a darparu gwasanaeth i gleientiaid sy’n mynychu cyrsiau Sgil Cymru.

Dyletswyddau a Chyfrifoldebau

Bydd y rôl yn amrywio, gan gynnwys dyletswyddau gweinyddol, cynorthwyo mewn digwyddiadau/cyrsiau hyfforddi a darparu cefnogaeth i’r Swyddog Hyfforddi a Marchnata, gyda’r prif gyfrifoldebau fel y ganlyn –

  • Cynorthwyo’r Pennaeth Hyfforddiant gyda chydlynu rhaglenni prentisiaeth a chyrsiau hyfforddi.
  • Cynorthwyo i drefnu cyrsiau hyfforddi i gynnwys lleoliad a llogi ystafelloedd, llety, teithio, gwaith papur, cefnogaeth TG a lluniaeth, yn y swyddfa ac mewn lleoliadau eraill.
  • Gweinyddu’r gweithgareddau swyddfa o ddydd i ddydd, gan gynnwys ateb y ffôn, delio â’r post a negeseuon e-bost, ffeilio, llungopïo, cynnal a chadw/archebu cyfarpar swyddfa a chyfleusterau, twyllo, croesawu ymwelwyr a dyletswyddau clercyddol eraill.
  • Darparu cymorth cyfieithu (Cymraeg-Saesneg / Saesneg-Cymraeg).
  • Trefnu a chynnal ffeiliau electronig a phapur ar gyfer prosiectau.
  • Cynnal a diweddaru rhestrau gweithredu yn dilyn cyfarfodydd staff wythnosol a chynhyrchu cofnodion mewn cyfarfodydd penodol.
  • Cynorthwyo’r Swyddog Hyfforddi a Marchnata gyda gwaith sy’n ymwneud â marchnata a recriwtio.
  • Creu, golygu a llwytho ffotograffau o ansawdd da o unigolion, digwyddiadau a chyrsiau hyfforddi i’w defnyddio off ac ar-lein.
  • Cynorthwyo i gynnal gwefan Sgil Cymru. Bydd hyn yn cynnwys copi ysgrifennu ar gyfer ar-lein, creu delweddau, llwytho gwybodaeth a sicrhau bod yr holl gynnwys wedi’i gyflwyno’n dda ac yn dilyn canllawiau’r cwmni.
  • Cynorthwyo i ddiweddaru sianeli cyfryngau cymdeithasol Sgil Cymru sy’n cynnwys Twitter, Facebook, LinkedIn, Instagram ac YouTube.
  • Cynorthwyo tîm Sgil Cymru i recriwtio unigolion ar gyfer gwahanol gynlluniau hyfforddi, o brentisiaethau i gyrsiau byr, trwy fynychu digwyddiadau a chyfarfodydd, yn ogystal â chreu ebyst hyrwyddo a marchnata dros y ffôn.
  • Cynorthwyo i greu cylchlythyrau yn seiliedig ar gynnwys ddiweddaraf y wefan.
  • Cynnal, creu a diweddaru cronfeydd data ar Excel.
  • Gweithio o fewn polisïau a gweithdrefnau’r Cwmni mewn perthynas â Chyfleoedd Cyfartal.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gallai fod eu hangen gennych chi.

Sgiliau Hanfodol

  • Bod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, gyda sgiliau ysgrifenedig a llafar ardderchog yn y ddwy iaith.
  • Gyda sgiliau cryf ar Mac a PC, gyda gwybodaeth weithredol o Microsoft Word, Excel, PowerPoint a Gmail.
  • Gallu gweithio’n annibynnol, i’ch menter eich hun a rheoli eich llwyth gwaith amrywiol eich hun.
  • Gallu gwrando a chymryd beirniadaeth adeiladol.
  • Gyda gwybodaeth/sgiliau cyfryngau cymdeithasol rhagorol.
  • Bod yn hyderus a brwdfrydig wrth gyfathrebu wyneb i wyneb neu dros y ffôn.
  • Bod yn drefnus a chael sylw rhagorol i fanylion.
  • Gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm ond gall weithio’n annibynnol.
  • Bod yn hyblyg ac yn gallu gweithio dan bwysau.
  • Gyda drwydded yrru a thrafnidiaeth eich hun.

Sgiliau Dymunol

Gwybodaeth weithredol o:

  • Final Cut Pro X
  • WordPress
  • Tweetdeck neu gyfatebol
  • Photoshop

Fframwaith

Tra’n gweithio i Sgil Cymru byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 15 mis Lefel Uwch (4) mewn Hysbysebu a Cyfathrebu Marchnata.

Cyflog

Mae’r union gyflog ar gyfer y swydd hon i’w gadarnhau ond yn ddibynol ar brofiad a chymhwyster. Y lleiafswm y gall prentis ennill yw’r Isafswm Lwfans Cenedlaethol ar gyfer Prentis, sef £3.70 yr awr am y 12 mis cyntaf o’r brentisiaeth. Bydd y rhai sydd yn 19 neu’n hŷn yn gymwys i gael y Cyflog Isafswm Cenedlaethol i’w oedran wedi’r 12 mis cyntaf o’r prentisiaeth.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.gov.uk/national-minimum-wage-rates

Sut i Ymgeisio

Cliciwch yma i gwblhau y ffurflen gais.

Os oes ganddoch unrhyw gwestiynnau am y prentisiaethau, edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin.

Dyddiad Cau

1200 Dydd Llun 23ain o Orffennaf 2018.

Cliciwch yma am fersiwn PDF o’r swydd ddisgrifiad.