Cwmni: Golley Slater
Rôl Prentisiaeth: Prentis Gweithredwr Cyfryngau
Lleoliad: Caerdydd
Am y Sefydliad
Golley Slater yw un o grwpiau cyfathrebu annibynnol mwyaf y DU. Wedi’i sefydlu’n wreiddiol fel asiantaeth hysbysebu ym 1957, mae’r grŵp wedi esblygu’n gwmni marchnata ac ymgynghori integredig, gan gofleidio’r meysydd ymgynghori marchnata, marchnata uniongyrchol, marchnata digidol, hysbysebu recriwtio, dylunio a chysylltiadau cyhoeddus.
Disgrifiad Swydd
Mae Golley Slater Media wedi ymrwymo i ragoriaeth ac yn ymfalchïo yn ansawdd ac effeithiolrwydd y gwasanaethau mae’n eu darparu.
Fel Prentis Gweithredwr Cyfryngau, byddwch yn helpu rheoli’r berthynas gyda’r cleient yn ogystal â rheoli prosesau a systemau mewnol. Byddwch yn helpu i sicrhau bod sgediwls cyfryngau yn cael eu cyflawni yn ôl y briff, ar amser ac o fewn y gyllideb.
Mae’r rôl yn cael ei chynnig o dan delerau Lefel 4 Prentisiaeth Lefel Uwch mewn Hysbysebu a Marchnata Cyfryngau a ddarperir drwy Sgil Cymru. Dylai ymgeiswyr gyfarwyddo’u hunain â gofynion y Brentisiaeth hon a bod yn abl i ymrwymo i brentisiaeth 15 mis.
Ein bwriad yw gwneud y rôl yn un parhaol, fodd bynnag bydd hyn yn amodol ar berfformiad boddhaol o fewn y rôl, cwblhau’r Prentisiaeth a gofynion y busnes ymhen 15 mis. Mae ein holl ymgeiswyr blaenorol o dan gynlluniau hyfforddiant o’r fath wedi cael eu cyflogi gan Golley Slater ac ers hynny maent wedi sefydlu gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant.
Mae rôl y Gweithredwr Cyfryngau yn sylfaenol i berthynas Cleient llwyddiannus; maent yn darparu pwynt cyswllt cyson, allweddol a dibynadwy ar gyfer y Cleient, cyflenwyr ac adrannau mewnol yr asiantaeth. Fel Gweithredwr Cyfryngau, byddwch yn dod i ddeall busnes y cleient fyddwch yn gyfrifol amdano a chymryd cyfrifoldeb am weithredu a chyflwyno adroddiadau ymgyrchu ac optimeiddio cyson.
Lle bo angen, byddwch yn cwestiynu perfformiadau a gyda chefnogaeth aelodau profiadol o’r tîm, yn cynnig ffyrdd i optimeiddio ac ychwanegu gwerth i ymgyrchoedd unigol.
Mae brwdfrydedd, ymrwymiad, diwydrwydd, dyfalbarhad a bod yn barod i fentro yn nodweddion allweddol Gweithredwr Cyfryngau llwyddiannus.
Cyfrifoldebau Allweddol:
Diwylliant Corfforaethol
- Dilyn canllawiau’r Grŵp (gweler Llawlyfr Staff) yn eich ymddygiad tuag at gleientiaid, cydweithwyr, y cyfryngau, cyflenwyr ac unrhyw un arall sy’n dod i gysylltiad â’r asiantaeth.
- Cwblhau tasgau yn unol â’r polisïau, gweithdrefnau a’r systemau sydd i’w cael yn ein Llawlyfr Ansawdd.
- Bod yn ymwybodol o’ch Iechyd a Diogelwch eich hun ag eraill bob amser.
Asiantaeth
- Cynorthwyo gyda rheoli cyfrifon cleientiaid, cysylltu â’r holl adrannau mewnol perthnasol i sicrhau fod y prosiectau yn cael eu cyflawni yn brydlon, yn dilyn y briff o fewn y gyllideb ac i’r safon ddisgwyliedig.
- Cyfrannu at lif gwaith dyddiol yr asiantaeth a gadael i’r rheolwr llinell wybod am unrhyw broblemau
- Hyrwyddo’r asiantaeth, ei gwaith a’i dibynadwyaeth yn fewnol ac yn allanol.
- Sicrhau bod gwasanaeth o’r lefel ucha’ yn cael ei ddarparu’n gyson gan bob adran
Cleient
- Canolbwyntio ar ddatblygu perthynas Cleientiaid, ennyn ymddiriedaeth a hygrededd
- Rheoli prosiectau cleientiaid yn llwyddianus ac yn broffidiol drwy’r asiantaeth.
- Rheoli a chysylltu gyda chleientiaid i sicrhau bod adroddiadau cyfrif yn gywir
- Sicrhau bod prosiectau, ar ôl eu comisiynu yn rhedeg yn llyfn, yn gywir, o fewn cyllideb, ar amser ac i’r safon a gytunwyd. Diweddaru a gofyn am gyngor gan y Rheolwr Llinell os bydd problemau’n codi
- Adolygu’r gwaith sydd ar y gweill ar ddechrau bob diwrnod a blaenoriaethu i gwrdd ag amserlenni’r wasg
- Gadael i’r Rheolwr Llinell/tîm wybod sut mae’r prosiect yn mynd a’u copïo mewn i unrhyw ohebiaeth berthnasol/pwysig. Defnyddio’ch disgresiwn.
- Cysylltu â’r cleient ar lafar, yn ysgrifenedig a wyneb-yn-wyneb
- Cynorthwyo gyda chreu ymgyrchoedd a syniadau newydd o fewn y cyfryngau ar gyfer cleientiaid presennol a newydd
- Datblygu perthynas weithio gadarn gyda chleientiaid
- Sicrhau bod gofynion y cleientiaid yn cael eu diwallu’n gyflym yn effeithiol ac yn gyflawn
- .Ymchwilio opsiynau priodol o fewn y cyfryngau ar gyfer cynulleidfaoedd penodol
- Cynghori cleientiaid yn gyson ar y dulliau gorau posib i gyflawni eu hamcanion
- Bod yn ymwybodol a gweithredu o fewn gweithdrefnau, y broses gymeradwyo a llofnodi.
- Gweithio i amseriadau a gytunwyd ar y cyd. Gweithio o fewn ein System Rheoli Ansawdd
- Defnyddio fformatau a gytunwyd ar gyfer pob gohebiaeth. Defnyddio tôn priodol ym mhob gohebiaeth gan gynnwys e-bost. Lle bo angen, ceisio cymeradwyaeth y rheolwr llinell.
- Sicrhau fod bob gohebiaeth Cleient/Cyflenwr yn cael ei gofnodi’n llawn a’i ffeilio’n gywir
- Bod yn atebol am y cymeradwyaeth cyfreithiol, cleient a thrydydd parti ar gyfer ymgyrchoedd/prosiectau
Datblygiad Creadigol
- Gan weithio gydag Uwch Weithredwr Cyfrif neu Reolwr, byddwch yn cynorthwyo yn y broses datblygiad creadigol
- Sicrhau bod yr adran Greadigol yn cael cefnogaeth a chymorth fel rhan o’r broses ddatblygu greadigol – ee ymchwil gefndirol, gofynion cynhyrchu, gwneud yn siŵr fod pethau’n digwydd ac ati.
- Ochr yn ochr â’r rheolwr, rhoi adborth adeiladol i’r Tîm Creadigol ar syniadau a thestun.
- Gweithio gyda’r Adran Greadigol i adeiladu rhesymeg greadigol ar gyfer cyflwyniadau cleientiaid.
Busnes Newydd
- Cynorthwyo yn y broses pitsio ar gyfer busnes newydd pryd bynnag bo’n briodol, gan helpu i lunio cyflwyniadau, amcangyfrifon a briffau creadigol ar gais y cleient a phersonél busnes newydd.
Gweinyddiaeth
- Bydd angen i chi ddangos gallu trefnu cryf a sgiliau gweinyddol heb eu hail
- Rhaid sicrhau bod Gorchmynion Dechrau Gwaith a gwaith papur yn cael eu diweddaru gan ddilyn canllawiau’r Llawlyfr Ansawdd.
- Bydd eich gwaith yn cael ei archwilio’n rheolaidd, yn fewnol ac yn allanol gan aseswyr annibynnol fel rhan o’r achrediad ansawdd. Bydd diffyg cyson i gydymffurfio i brosesau yn cael ei nodi yn Cofnodlyfr Adrodd Problemau a gall arwain at gamau disgyblu.
Monitro Cleientiaid, Cystadleuwyr a Diwydiant
- Dangos ymwybyddiaeth barod o’r tri maes a bod yn ymwybodol o’r tueddiadau o fewn y diwydiant mae’r cleient yn gweithredu ynddo
Cyllid
- Cysylltu â chyflenwyr cyfryngau a chynhyrchu i gael amcangyfrifon cost, a chyfathrebu’r amcangyfrifon hyn, gan nodi cyfraddau comisiwn ac unrhyw ddisgowntiau asiantaeth ychwanegol neu werth ychwanegol.
- Rhaid i chi roi rhif archeb lawn Golley Slater i’r cyflenwr cyn rhoi eich awdurdod i fwrw ymlaen.
- Byddwch yn cynnal perthynas waith effeithiol gydag ein Hadran Cyfrifon mewnol ac yn ateb unrhyw ymholiadau / ceisiadau am wybodaeth yn brydlon.
Y person:
- Byddwch yn ddiwyd, yn drefnus ac yn gredadwy iawn gyda’r proffesiynoldeb angenrheidiol ac ymrwymiad i wasanaeth cwsmeriaid i gyflawni safonau uchel yn gyson.
- Byddwch yn hyderus gyda sgiliau rhyngbersonol a negydu cryf. Mae tact a diplomyddiaeth hefyd yn ofynion angenrheidiol.
- Efallai bydd angen i chi fabwysiadu agwedd hyblyg tuag at oriau gwaith er mwyn diwallu anghenion y busnes.
Sgiliau a Phrofiad:
- Dangos dealltwriaeth o elfennau amrywiol y cymysgedd marchnata.
- Sgiliau Rhifedd a llythrennedd cryf
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ac yn gywir, gan ddangos sgiliau rhyngbersonol cryf
- Rhaid bod yn broffesiynol gredadwy a gallu meithrin perthynas effeithiol
- Yn meddu ar sgiliau trefnu cryf
- Ymwybyddiaeth dda o’r diwydiant a dealltwriaeth o wasanaethau busnes digidol.
- Sgiliau cyfrifiadurol gwych – rhaid gallu defnyddio MS Office, yn enwedig Excel, Word a Powerpoint. Rhaid bod yn gyfarwydd iawn â defnyddio’r Rhyngrwyd ac e-bost.
- Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ar gyfer y rôl.
Fframwaith
Tra’n gweithio i Golley Slater byddwch yn cwblhau Prentisiaeth Lefel 4 mewn Hysbysebu a Chyfathrebu Marchnata trwy Sgil Cymru, darparwr hyfforddiant yng Nghaerdydd.
Cyflog
Mae’r union gyflog ar gyfer y swydd hon i’w gadarnhau. Y lleiafswm y gall prentis ennill yw’r Isafswm Lwfans Cenedlaethol ar gyfer Prentis, sef £3.70 yr awr am y 12 mis cyntaf o’r brentisiaeth. Bydd y rhai sydd yn 19 neu’n hŷn yn gymwys i gael y Cyflog Isafswm Cenedlaethol i’w oedran wedi’r 12 mis cyntaf o’r brentisiaeth.
Am fwy o wybodaeth am Isafswm Cyflog Cenedlaethol i Brentis ewch i www.gov.uk/national-minimum-wage-rates
Sut i Ymgeisio
Cliciwch yma i gwblhau y ffurflen gais.
Os oes ganddoch unrhyw gwestiynnau am y prentisiaethau, edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin.
Dyddiad Cau
1200 Dydd Llun 17eg Medi 2018.
Cliciwch yma am fersiwn PDF o’r swydd ddisgrifiad.