Prentis Hyfforddai Effeithiau Arbennig – Real SFX

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Cwmni:                      Real SFX
Rôl Prentisiaeth:      Prentis Hyfforddai Effeithiau Arbennig
Lleoliad:                    Caerdydd

Am y Sefydliad

Real SFX logoMae Real SFX yn gwmni sydd wedi ennill ddwywaith yng ngwobrau BAFTA Craft a BAFTA Cymru; maent yn gwmni sy’n darparu effeithiau arbennig o’r safon uchaf i’r diwydiannau teledu a ffilm.  Rydym yn arbenigo mewn effeithiau atmosfferig, tan, glaw, rigiau mecanyddol, creu modelau a phropiau meddal gan ddefnyddio’r techneg a chyfarpar mwyaf blaenllaw.

Disgrifiad Swydd

Bydd yr unigolyn yn berson ymarferol sydd â diddordeb mewn peirianneg, mecaneg ac electroneg.

Bydd angen iddynt fod yn amryddawn ac yn gyfnewidiol, gyda’r ddawn i ddysgu â’r gallu i feddwl yn gyflym a datrys problemau.

Bydd angen iddynt fod â diddodreb mewn dysgu ystod eang o sgiliau gweithdy o safon uchel megis weldio, a bod eisiau cael y profiad o ddefnyddio ystod o beiriannau i greu effeithiau megis gwynt, glaw, eira a thân gan ddysgu sut i ddefnyddio tân gwyllt (pyrotechnics) yn saff.

Bydd angen iddynt for yn ymwybodol iawn o Iechyd a Diogelwch a bod yn barod i wrando a dysgu gan dechnegwyr profiadol.

Sgiliau Anghenrheidiol:

  • Sgiliau cyfathrebu
  • Sgiliau gwrando
  • Ysbryd tîm
  • Agwedd bositif

 Sgiliau Dymunol ond nid Angenrheidiol

  • Byddai trwydded yrru o fantais yn y rôl hwn

Fframwaith

Tra’n gweithio i Real SFX byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.