Cwmni: Apollo Wales
Rôl Prentisiaeth: Prentis Marchnata
Lleoliad: Caerdydd
Am y Sefydliad
Apollo Wales yw penllanw syniadau Perchnogion Busnes Chris a Jack sef perchnogion y Gorfforaeth Birkenhaus; cwmni teuluol wedi’i leoli yng Nghaerdydd ac yn canolbwyntio ar ddarparu atebion ar gyfer perchnogion busnes a chartref.
Yn wreiddiol fe ddatblygodd y busnes i ateb anghenion Myfyrwyr a Thenantiaid yng Nghaerdydd ar gyfer Gwasanaethau Glanhau Cartref, yn gyflym ehangodd Apollo Wales i gynnwys Gosod asiantaethau a pherchnogion tai o bob rhan o Dde Cymru ac fe ddatblygo’ nhw enw da am safonau uchel a gwerth eithriadol a gafodd ei basio ymlaen i fyd busnes.
Arweiniodd hyn at ffurfio is-adran Gwasanaethau Glanhau Masnachol sydd wedi gweithio ar gyfer rhai Busnesau Mwyaf y DU gan gynnwys Banc Barclays, Morrisons, WHSmith, Schuh, Asda, McDonalds, Tesco a llawer mwy.
Disgrifiad Swydd
Rydym yn chwilio am rywun anhygoel.
Dydy’ ni ddim eisiau ‘brwdfrydig’, ‘awyddus’ nag unrhyw air arall sy’n llenwi CV. Ond Na! (Rydym angen yr rheiny hefyd!)
Ond rydym mewn gwirionedd eisiau rywun sydd wrth eu bodd yn Hyrwyddo Gwasanaethau ac sydd â rhai syniadau anhygoel ar sut i farchnata’r Cwmni, cynnyrch, gwasanaeth a mwy.
Byddwch yn barod, yn y cyfweliad, efallai y byddwn yn gofyn i chi werthu rhywbeth i ni (neu i farchnata rhywbeth).
Bydd pwy bynnag sy’n cael y cyfle anhygoel hwn yn gweithio mewn adeilad disglair ac awyrog (a newydd sbon) o ddydd Llun i ddydd Gwener o dan Arbenigwr Marchnata i greu ymwybyddiaeth brand a chynnwys ar gyfer rhai o’n cwmnïau mewnol yn ogystal ag ar gyfer cwmnïau allanol hefyd.
Bydd angen i chi fod yn gyfarwydd efo TG ac os ydych yn gyfarwydd efo Adobe, bydd hyn hyd yn oed yn well, ond mae’n fwy pwysig eich bod yn ymwybodol a gweithgar.
Byddwn allan ar leoliad yn gwneud rhywfaint o waith ffilmio yn achlysurol yn seiliedig ar eich syniadau marchnata felly bydd angen cot! Mae angen i chi cael egni, uchelgais a’r holl bethau eraill sy’n gwneud Athrylith Marchnata Gret!
Yn gyfnewid, byddwn yn eich talu. Ond nid yw’n stopio yma. Fel Prentis, byddwch yn cael hyfforddiant o’r radd flaenaf trwy darparwr hyfforddiant ardderchog.
Dim digon? A ydych chi wedi eich temptio eto?
Rydym am i’n staff i lwyddo ac i garu eu swydd. Dyna pam mae gennym gynllun bonws disgresiwn ar gyfer ein staff Gwerthu a Marchnata sy’n cyflawni canlyniadau gwych. Mae’r symiau yn amrywio yn dibynnu ar y canlyniadau, ond yn y cyfamser byddwch yn gallu defnyddio ein campfa am ddim, tocynnau gostyngol yn y sinema leol, prydau o fwyd rhad mewn tafarndai lleol yn ogystal â llwyth o fanteision eraill a budd-daliadau am weithio ar gyfer ein cwmni.
Gwn eich bod wedi’ch temptio. Ymgeisiwch nawr!
Fframwaith
Tra’n gweithio i Apollo Wales, byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 15 mis Lefel Uwch (4) mewn Hysbysebu a Cyfathrebu Marchnata.