Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.
Cwmni: BBC Cymru Wales
Rôl Prentisiaeth: Prentis Ôl-Gynhyrchu
Lleoliad: Porth y Rhath, Bae Caerdydd
Am y Sefydliad
Darlledwr y genedl yw BBC Cymru Wales, yn cynnig ystod eang o ddarpariaeth yn y Gymraeg a Saesneg ar gyfer cynulleidfaoedd ledled Cymru ar y teledu, y radio a thrwy ein gwefannau.
Porth y Rhath yw canolfan ragoriaeth gwbl fodern y BBC ar gyfer Drama, lleoliad sy’n fwrlwm o ynni a doniau newydd. Pan symudodd y cynyrchiadau cyntaf i Borth y Rhath ym Medi 2011, fe wnaethant wireddu un o addewidion y BBC i greu canolfan ragoriaeth ar gyfer Drama yng Nghaerdydd.
Mae’r cyfleuster 170,000 troedfedd sgwâr hwn a leolir ym Mhorth Teigr, Bae Caerdydd, sy’n cynnwys naw stiwdio ac sydd yr un hyd â thri chae pêl-droed, yn awr yn gartref parhaol, at y pwrpas i bedair o brif ddramâu’r BBC – Casualty, Pobol y Cwm, Doctor Who – yn ogystal ag i gynyrchiadau newydd i’r dyfodol.
Disgrifiad Swydd
Bydd angen i chi weithio’n agos gyda thimau cynhyrchu a bydd yn ofynnol i chi chwarae rhan weithredol yn y broses ôl-gynhyrchu; bydd angen i chi gynorthwyo ag ansawdd technegol ein hallbwn yn ogystal â dangos diddordeb brwd mewn ffilm, fideo a thechnoleg.
Byddai cael ymwybyddiaeth a thechnegau golygu sylfaenol a phrosesau ôl-gynhyrchu o fantais.
Bydd angen iddynt hefyd ddangos agwedd gadarnhaol ac ymroddgar ac awydd cryf i ddysgu gan fod yr oriau’n faith a gall y swydd gynnwys cyfnodau hir o weithio oddi cartref.
Dyma enghreifftiau o’r swyddi y gallai Prentis Ôl-Gynhyrchu wneud yn y dyfodol –
- Golygydd Cynorthwyol
- Golygydd Ar-lein / All-lein
- Lliwiwr
- Gweithredwr VT
Pa fath o berson sydd angen i mi fod?
- Trefnys
- Cyfathrebwr da
- Hunan-ddechreuwr
- Technegol
- Y gallu i reoli newid
Sgiliau Anghenrheidiol:
- Gwybodaeth am brosesau Ôl-gynhyrchu
- Sgiliau TG uwch
- Sgiliau gweithio mewn tîm effeithiol
- Sgiliau cyfathrebu gwych
- Sgiliau trefnu o safon uchel a sylw arbennig at fanylion
- Sgiliau symbylu a datrys problemau
- Y gallu i fod yn ddiplomyddol a sensitif tra’n gweithio gyda cleientiaid
Cymwyseddau Cyffredinol
- Gwaith tîm – Gweithio’n effeithiol iawn fel rhan o dîm; yn gweithio er budd y tîm cyfan
- Rheoli cydberthnasau – Gallu creu a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol ag amrywiaeth o bobl.
- Cyfathrebu – Y gallu i gyfleu neges yn glir drwy fabwysiadu amrywiaeth o arddulliau, dulliau a thechnegau sy’n briodol i’r gynulleidfa ac i natur y wybodaeth
- Dylanwadu a darbwyllo – Y gallu i gyflwyno dadleuon cadarn ac wedi’u rhesymu’n dda i ddarbwyllo pobl eraill. Gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddarbwyllo pobl mewn ffordd sy’n arwain at gytundeb neu newid ymddygiad
- Cynllunio a threfnu – Yn gallu bod yn flaengar er mwyn sefydlu dull gweithredu effeithiol a phriodol i chi’ch hun ac eraill. Yn blaenoriaethu ac yn cynllunio gweithgareddau gan ystyried yr holl faterion a ffactorau perthnasol megis terfynau amser, gofynion staffio ac adnoddau.
- Meddwl yn Greadigol – Yn gallu troi syniadau/ysgogiadau creadigol yn realiti ymarferol. Yn gallu edrych ar sefyllfaoedd a phroblemau presennol mewn ffyrdd newydd a chreu datrysiadau creadigol.
- Dyfalbarhad – Yn gallu rheoli effeithiolrwydd personol drwy reoli emosiynau yn wyneb pwysau, rhwystrau neu wrth ddelio â sefyllfaoedd cythruddol. Yn gallu dangos ymagwedd at waith a nodweddir gan ymrwymiad, cymhelliant a brwdfrydedd.
- Ysgogiad – Yn dangos ymrwymiad, cymhelliant ac egni.
- Hunanddatblygiad – Yn dangos cryfderau personol ac anghenion datblygu, ac yn ceisio gwella perfformiad yn barhaus drwy feithrin sgiliau a dysgu ymddygiad newydd.
- Hyblygrwydd – Yn addasu a gweithio’n effeithiol gydag unigolion, grwpiau neu mewn sefyllfaoedd amrywiol. Yn gallu deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol a gwrthwynebol ar fater, addasu dull o weithredu wrth i ofynion sefyllfa newid, a derbyn newidiadau yn eich sefydliad eich hun neu ofynion eich swydd yn hawdd.
Fframwaith
Tra’n gweithio i BBC byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.