SWYDD DDISGRIFIAD: Prentis CRIW Ôl-Gynhyrchu

Prif Gyflogwr: Asiantaeth Hyfforddi Prentisiaeth Rhanbarth y Ddinas De Dwyrain Cymru

Rôl Prentis: Prentis CRIW Ôl-Gynhyrchu (llun a sain)

Lleoliad y Rôl: Lleoliadau gyda chwmnïau amrywiol yn ardal y De Ddwyrain a’r De Orllewin

Mae Cynllun Prentisiaeth CRIW yn ffordd ardderchog o ddod i mewn i’r diwydiant, ac i gael blas ar sut mae’r sector wir yn gweithio, gan y bydd y prentis yn symud o gwmni i gwmni.

Mae’r rôl yn cynnig cyfleon i ennill profiad hanfodol o’r broses ac yn cynnig cyfleon rhwydweithio eang, rhywbeth gwerthfawr iawn ym myd y Cyfryngau.

Byddai cael ymwybyddiaeth a thechnegau golygu sylfaenol a phrosesau ôl-gynhyrchu o fantais.

Disgwylir i brentisiaid ôl-gynhyrchu wneud popeth yn cynnwys gwneud te a choffi, ateb y ffôn, darparu pob math o gymorth gweinyddol yn ogystal â rheoli’r derbynfa a chadw’r holl ystafelloedd golygu’n daclus a’r cleientiaid yn hapus.  Bydd angen iddynt hefyd ddangos agwedd gadarnhaol ac ymroddgar ac awydd cryf i ddysgu gan fod yr oriau’n hir.

Dyma enghreifftiau o’r swyddi y gallai Prentis Ôl-Gynhyrchu wneud yn y dyfodol – 

  • Golygydd Cynorthwyol
  • Golygydd Ar-lein / All-lein
  • Lliwiwr
  • Gweithredwr VT

Pa fath o berson sydd angen i mi fod?

  • Trefnus
  • Cyfathrebwr da
  • Hunan-ddechreuwr
  • Technegol
  • Y gallu i reoli newid 
  • Un da am gymryd cyfarwyddyd

Sgiliau Anghenrheidiol:

  • Gwybodaeth am brosesau Ôl-gynhyrchu
  • Sgiliau TG uwch
  • Sgiliau gweithio mewn tîm effeithiol
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog
  • Menter ac ymwybyddiaeth
  • Sgiliau trefnu o safon uchel a sylw arbennig at fanylion
  • Sgiliau symbylu a datrys problemau
  • Y gallu i ymateb ac i weithio’n gyflym, dan bwysau
  • Y gallu i fod yn ddiplomyddol a sensitif tra’n gweithio gyda cleientiaid

Cymwyseddau Cyffredinol

  • Gwaith tîm – Gweithio’n effeithiol iawn fel rhan o dîm; yn gweithio er budd y tîm cyfan.
  • Rheoli cydberthnasau – Gallu creu a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol ag amrywiaeth o bobl.
  • Cyfathrebu – Y gallu i gyfleu neges yn glir drwy fabwysiadu amrywiaeth o arddulliau, dulliau a thechnegau sy’n briodol i’r gynulleidfa ac i natur y wybodaeth.
  • Dylanwadu a darbwyllo – Y gallu i gyflwyno dadleuon cadarn ac wedi’u rhesymu’n dda i ddarbwyllo pobl eraill. Gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddarbwyllo pobl mewn ffordd sy’n arwain at gytundeb neu newid ymddygiad.
  • Cynllunio a threfnu – Yn gallu bod yn flaengar er mwyn sefydlu dull gweithredu effeithiol a phriodol i chi’ch hun ac eraill. Yn blaenoriaethu ac yn cynllunio gweithgareddau gan ystyried yr holl faterion a ffactorau perthnasol megis terfynau amser, gofynion staffio ac adnoddau.
  • Meddwl yn Greadigol – Yn gallu troi syniadau/ysgogiadau creadigol yn realiti ymarferol. Yn gallu edrych ar sefyllfaoedd a phroblemau presennol mewn ffyrdd newydd a chreu datrysiadau creadigol.
  • Dyfalbarhad – Yn gallu rheoli effeithiolrwydd personol drwy reoli emosiynau yn wyneb pwysau, rhwystrau neu wrth ddelio â sefyllfaoedd cythruddol. Yn gallu dangos ymagwedd at waith a nodweddir gan ymrwymiad, cymhelliant a brwdfrydedd.
  • Ysgogiad – Yn dangos ymrwymiad, cymhelliant ac egni.
  • Hunanddatblygiad – Yn dangos cryfderau personol ac anghenion datblygu, ac yn ceisio gwella perfformiad yn barhaus drwy feithrin sgiliau a dysgu ymddygiad newydd.
  • Hyblygrwydd – Yn addasu a gweithio’n effeithiol gydag unigolion, grwpiau neu mewn sefyllfaoedd amrywiol. Yn gallu deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol a gwrthwynebol ar fater, addasu dull o weithredu wrth i ofynion sefyllfa newid, a derbyn newidiadau yn eich sefydliad eich hun neu ofynion eich swydd yn hawdd.

Gall y rôl gynnwys gweithio oriau hir ac anghymdeithasol.  Nid oes angen profiad blaenorol o weithio ym maes teledu a ffilm, ond yn bendant mae angen i chi fod yn llawn cymhelliant, yn frwdfrydig ac yn barod i weithio’n galed.

Bydd protocolau gwaith Covid-19 mewn lle, fesul cwmni. 

Gofynion

• Byw yng Nghymru 

• Diddordeb brwd mewn gweithio mewn rolau y tu ôl i’r llenni ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu 

• Yn gallu ymrwymo i 12 mis gan ddechrau ar ddydd Llun, 26ain o Orffennaf 2021

• Mynediad i’r rhyngrwyd ar gyfer dysgu oddi ar y safle pan fo angen

• Trwydded yrru a thrafnidiaeth bersonol

• Nid oes angen profiad yn y diwydiant.

• Mae angen siaradwyr Cymraeg rhugl ar gyfer nifer gyfyngedig o swyddi.

Cyflog

£12,500 y flwyddyn

Wrth weithio fel Prentis CRIW Ôl-gynhyrchu, byddwch yn cwblhau Prentisiaeth Lefel 3, 12 mis, yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol.

Ceisiadau bellach ar gau.