CYFLOGWYR

PAM CYFLOGI PRENTIS?

Mae buddsoddiad mewn prentis cyfryngau creadigol a digidol yn fuddsoddiad yn nyfodol eich busnes, sy’n dod a talent, technegau a thechnolegau newydd i’r cwmni, gan ddarparu llwybr mynediad ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, ac arfogi talent newydd gyda sgiliau meddal a thechnegol trosglwyddadwy addas ar gyfer cydgyfeirio rolau swydd.

Y ROLAU

Mae prentis yn gyflogai eich busnes gyda chytundeb a disgrifiad swydd. Bydd rôl a theitl swydd ar gyfer prentis cyfryngau creadigol a digidol yng Nghymru yn amrywio yn dibynnu ar eich busnes penodol . Mae’n bwysig trafod gyda’ch darparwr hyfforddiant i ddatblygu swydd sy’n sicrhau eich bod yn cael y person gorau ar gyfer eich anghenion busnes chi.

Dyma rai enghreifftiau o rolau swyddi sy’n addas ar gyfer prentis cyfryngau creadigol a digidol lefel 3:

Cynhyrchu, cyfryngau rhyngweithiol, amlgyfryngau rhyngweithiol, gwaith camera, ffotograffiaeth, gwisgoedd, effeithiau arbennig, golygu ar gyfer sain a fideo

Dyma rai enghreifftiau o rolau swyddi sy’n addas ar gyfer prentis cyfryngau creadigol a digidol lefel uwch (cyfryngau rhyngweithiol) :

Rheolwr cynnwys ar-lein, cydlynydd profiad y defnyddiwr, dylunydd cynnyrch rhyngweithiol iau, datblygwr cynnyrch rhyngweithiol iau, rheolwr y cyfryngau cymdeithasol iau.

Dyma rai enghreifftiau o’r swyddi sy’n addas ar gyfer prentis Hysbysebu a Cyfathrebu Marchnata lefel 4:

Cynorthwy-ydd marchnata, rheolwr cyfryngau cymdeithasol iau, cynorthwy-ydd cyfathrebu, cyfrifydd gweithredol iau, ysgrifennwr copi, prynwr cyfryngau iau, dylunydd gwe.

SUT MAE’R HYFFORDDIANT YN GWEITHIO?

Bydd darparwr hyfforddiant yn eich cefnogi yn llawn ar ddechrau’r brentisiaeth i adnabod eich anghenion hyfforddiant, datblygu rôl swydd ac i sicrhau bod y prentis yn dysgu’r sgiliau anghenion eich cwmni. Gallwch hefyd uwchsgilio aelod o staff drwy’r cynllun.

CYFLOG AR GYFER PRENTIS

Mae prentisiaid yn weithwyr cyflogedig ac felly mae rhaid iddynt dderbyn cyflog am gyfnod eu prentisiaeth – gan gynnwys yr amser maent yn ei dreulio yn derbyn hyfforddiant.

Yr isafswm y bydd Prentis yn dderbyn yw yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer Prentis gan y cwmni lle byddant yn gweithio. Y raddfa gyfredol yw £3.70* yr awr (sylwer bod hwn yn is na’r isafswm incwm trethadwy).

Am wybodaeth bellach ar yr Isafswm Cyflog ewch i – www.gov.uk/national-minimum-wage-rates

* Bydd rhai sydd yn 19 oed neu drosodd yn gymwys am yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer eu grwp oedran unwaith mae’r 12 mis cyntaf fel Prentis wedi ei gwbhlau.

Mae nifer o gwmnïau yn dewis talu eu prentisiaid ar gyfradd uwch. Efallai yr hoffech ystyried talu o leiaf y cyflog byw i’ch prentis, neu gyflog sy’n gymesur â’r swydd y maent yn ei wneud (gan gofio bod eich prentis hefyd yn ymgymryd â hyfforddiant).

COSTAU HYFFORDDIANT

Mae hyfforddiant prentisiaeth yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy gytundebau dysgu drwy weithio a darparwyr hyfforddiant. Does dim costau hyfforddi yn cael eu trosglwyddo i’r cyflogwr fel rhan o’r cynlluniau yma.

Cysylltwch a ni ar frys ar 07843 779 870 neu help@sgilcymru.com

Apprentice Footer