Prentis Adran Gwallt & Colur

CEISIADAU NAWR AR GAU.

Mae Prentisiaeth Ar Y Cyd yn gyfle ardderchog i bobl ddod i mewn i’r diwydiant, ac i gael blas ar sut mae’r sector wir yn gweithio, gan y bydd y prentis yn symyd o gwmni i gwmni, yn ddibynnol ar hyd y cynhyrchiad.  

Mae prentisiaid blaenorol a chyfredol yn gweithio ar gynyrchiadau fel:

  • Casualty 
  • Doctor Who 
  • Pobol Y Cwm 
  • His Dark Materials 
  • Peaky Blinders
  • Fleabag 

Cyflog

£12,500 PA

Disgrifiad Swydd

Mae’r adran golur a gwallt yn gyfrifol am gynllunio, gosod, cynnal parhad a gofalu am wallt a cholur yn ystod cynhyrchiad y ffilm. Mae’r gwaith yn amrywio o greu edrychiadau cyfoes i greu cynlluniau a steiliau cyfnod neu trawsffurfio wynebau a chyrff actorion gan ddefnyddio prostheteg. Mae effeithiau gwallt a cholur hefyd yn cynnwys gosod blew ar y wyneb, wigiau, tatŵs, paent y corff neu greithiau, clwyfau a gwaed.

Beth mae Prentis Colur a Gwallt yn gwneud?

  • Gosod a chynnal gweithfeydd colur a gwallt 
  • Paratoi er mwyn newid ymddangosiad y perfformwyr
  • Cynorthwyo a chynnal parhad ymddangosiad y perfformwyr
  • Gosod, trwsio a gwisgo blew ar y wyneb, wigiau a gwallt gosod er mwyn newid ymddangosiad y perfformwyr
  • Gweithio gyda chyllidebau bychain
  • Cyfrannu at berthnasoedd gweithio da
  • Sicrhau eich bod yn gweithredu er mwyn lleihau peryglon Iechyd a Diogelwch
  • Rheoli a marchnata eich hun fel un sy’n gweithio ar liwt eich hun
  • Trwydded gyrru glan

Pa fath o berson sydd angen i mi fod?

  • Cyfathrebwr da
  • Dadansoddol
  • Hunan-gychwynwr
  • Penderfynol
  • Trefnus
  • Diplomataidd
  • Un da am gymryd cyfarwyddyd
  • Trwydded gyrru glan
  • Byddai’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg o fantais yn y rôl yma.

Sgiliau Anghenrheidiol

Bydd angen i ddarpar Brentisiaid ddangos diddordeb amlwg a dyhead i wneud eu marc yn y diwydiannau creadigol a digidol yng Nghymru. 

Bydd angen iddynt hefyd ddangos agweddgadarnhaolac ymroddgarac awydd cryfi ddysgu gan fod yr oriau’n faith a gall y swydd gynnwys cyfnodau hir o weithio oddi cartref.

Cymwyseddau Cyffredinol

  • Byddai’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg o fantais yn y rôl yma.
  • Ymwybyddiaeth o ofynion Iechyd a Diogelwch
  • Sgiliau trin gwallt a cholur
  • Yn gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da 
  • Mae’n rhaid bod yn hynod drefnus, yn effeithlon ac â chof da a sylw at fanylder
  • Yn gallu ymdopi’n dda o dan bwysau
  • Yn gallu helpu a derbyn cyfarwyddyd a beirniadaeth adeiladol
  • Sgiliau diplomataidd
  • Sgiliau TG da
  • Yn dringar a sensitif ac â’r gallu i wneud i bobl ymlacio
  • Sgiliau datrys problemau yn ogystal â hyblygrwydd a stamina
  • Sgiliau cyflwyno da
  • Yn gallu gweithio at derfynau amser
  • Sgiliau ymchwil da
  • Yn galluaml-dasgio
  • Byddai bod yn gyfarwydd â cholur cyfnod ac edrychiadau cyfoes yn ddefnyddiol
  • Angerdd am ffilm, colur a gwallt

Fframwaith

Tra’n gweithio fel Prentis Adran Golur byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.