POD Y PRENTIS: Gwenno Ellis Owen

Heddiw, rydym yn falch i ryddhau pennod newydd o’n podlediad ‘POD Y PRENTIS’ gyda’n gwestai – Gwenno Ellis Owen!

Mae’r bennod yma yn cael ei gyflwyno gan Lisa Jarman. Pennod iaith Gymraeg yr wythnos hon (bydd is-deitlau Saesneg ar gael ar YouTube o’r 9fed o Dachwedd)! Mae Lisa yn cael sgwrs gyda Gwenno Ellis Owen sydd yn gweithio fel cydlynydd cynhyrchu gyda Boom. Mae Gwenno wedi bod yn gweithio gyda Boom ers cychwyn ei phrentisiaeth ac wedi parhau gyda’r cwmni ers hynny yn gweithio yn bennaf ar gynyrchiadau ffeithiol, ond mae hi hefyd wedi cael y cyfle i weithio ar phrosiectau eraill o fewn y cwmni yn cynnwys cwpwl o ddramau a Boom Plant.

Gallwch chi wrando ar y podlediad isod, neu ar ein tudalen YouTube yma.