Heddiw, rydym yn falch i ryddhau pennod newydd o’n podlediad ‘POD Y PRENTIS’ gyda’n gwestai – Scott Lea!
Pennod iaith Saesneg i ddod a ni mewn i’r flwyddyn newydd gyda Lisa Jarman yn cyflwyno. Roedd Scott yn brentis gyda Sgil Cymru o 2016-2017 ac erbyn hyn mae’n byw yn Denmarc! Mae’r bennod yma’n dilyn ei daith ddiddorol o Sgil Cymru, i benderfynu bod gwell ganddo yrfa o flaen y camera. Symudodd i Lundain i fynd i ysgol ddrama – ac yna yn ei flwyddyn olaf daeth y pandemig! Dydy’r daith ddim wedi bod yn un llyfn i Scott, ond mae ei agwedd bositif yn dod trwyddo’n amlwg yn y bennod arbennig yma.
Gallwch chi wrando ar y podlediad ar Spotify yma, neu ar ein tudalen YouTube yma.