CEISIADAU NAWR AR AGOR AR GYFER CRIW YN Y DE!

Mae ceisiadau nawr ar agor unwaith eto ar gyfer CRIW yn ne Cymru!!

Mae Sgil Cymru yn hynod falch unwaith eto o gyhoeddi CRIW, Rhaglen Brentisiaeth unigryw ar gyfer 2024, sy’n agored i’r rhai sy’n awyddus i weithio y tu ôl i’r llenni ar gynyrchiadau ffilm a theledu sylweddol yn Ne Cymru. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ennill profiad ymarferol o weithio ar set, yma yng Nghymru. Crëwyd y Rhaglen Brentisiaeth hon i adlewyrchu natur ddeinamig, hyblyg gwaith llawrydd – curiad calon y diwydiant.

Darllenwch mwy ac ymgeisiwch yma.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw d.Llun, 8fed o Ebrill am hanner dydd.