Heddiw, rydym yn falch i ryddhau pennod newydd o’n podlediad ‘POD Y PRENTIS’ gyda’n gwestai – Elin Glyn Jones!
Pennod iaith Gymraeg mis yma gyda Lisa Jarman yn cyflwyno! Roedd Elin yn brentis CRIW gyda Sgil Cymru yn 2021-2022. Gweithiodd Elin gyda Rownd a Rownd cyn symud ymlaen i weithio gyda Chwarel lan yng Ngogledd Cymru. Ar ôl gorffen y brentisiaeth, cafodd Elin cynnig swydd llawn amser, lle maen nhw’n dal i weithio ar hyn o bryd. Dilynwch stori Elin o brifysgol i swydd yn y byd teledu!
Gallwch chi wrando ar y podlediad ar Spotify isod, neu ar ein tudalen YouTube yma.
(Is-deitlau Saesneg ar gael ar YouTube)