Mae prosiect cyffrous newydd i Sgil Cymru wedi cael ei gyhoeddi heddiw. Darllenwch y cyhoeddiad i’r wasg isod:
BFI YN BUDDSODDI £900,000 O ARIAN Y LOTERI GENEDLAETHOL DROS DDWY FLYNEDD I GREU CLWSTWR SGILIAU BFI I GYMRU
Sgil Cymru, Cymru Greadigol a Screen Alliance Wales (SAW) yn partneru i lansio’r ‘Siop Un Stop’, Clwstwr Sgiliau BFI i Gymru sy’n cefnogi datblygiad gweithlu sector cynhyrchu sgrin y genedl
LLUNDAIN – Dydd Iau 18 Ebrill 2024: Mae’r BFI yn buddsoddi £900,000 mewn Clwstwr Sgiliau BFI yng Nghymru, a fydd yn gweld Sgil Cymru, mewn partneriaeth agos â Cymru Greadigol a Screen Alliance Wales (SAW), yn lansio’r ‘Siop Un Stop’ newydd, diolch i arian achosion da y Loteri Genedlaethol. Mae’n dod yn un o saith Clwstwr Sgiliau BFI ar draws gwledydd a rhanbarthau’r DU sy’n ceisio gweithio ar y cyd â diwydiant lleol, addysg a darparwyr hyfforddiant i ddatblygu llwybrau cliriach at gyflogaeth hirdymor ym maes cynhyrchu ffilm a theledu.
Bydd y Siop Un Stop yn derbyn cyllid ychwanegol gan Cymru Greadigol a BBC Studios, ac yn gweithio fel partneriaeth gydweithredol o ddarparwyr hyfforddiant, addysgwyr pellach ac uwch, a diwydiant, gan weithio gyda’i gilydd i ddarparu llwybrau clir, cydlynol a thryloyw i fynd i mewn neu i symud ymlaen o fewn y diwydiant sgrin. Bydd yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd i bawb sy’n cael eu tangynrychioli yn y sector ar hyn o bryd, ac yn ei gyfnod cychwynnol o ddwy flynedd bydd yn ceisio elwa ac ymgysylltu â dros 2000 o weithwyr.
Bydd y gwasanaeth newydd yn cynnwys pedwar llinyn allweddol:
- Bydd ‘Y Siop Un Stop’ yn cynnwys adnodd ar-lein gyda chalendr o gyfleoedd hyfforddi a phrofiad gwaith, postiadau swyddi a dolenni i gronfeydd data criwiau, gan ei gwneud yn llawer haws i bobl gael mynediad at gyfleoedd.
- Dechrau’r Daith – bydd yn canolbwyntio ar hyfforddiant lefel mynediad, allgymorth cymunedol ac addysgol, a chronfa fwrsariaeth ‘Cyfleoedd i Bawb’.
- Pontio’r Bwlch – yn gweithio i ddod ag addysg bellach ac uwch a diwydiant yn nes at ei gilydd drwy ddarparu lleoliadau profiad gwaith cydgysylltiedig a chyfres o sesiynau ‘Addysgu’r Addysgwyr’.
- Parhau â’r Siwrnai – bydd yn darparu cyfleoedd hyfforddi ac uwchsgilio pellach i’r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant.
Y Siop Un Stop fydd y lle i ymweld ag ef wrth geisio creu gyrfa yn y sector sgrin neu ei datblygu. Bydd yn cynnwys bwrsariaethau i oresgyn rhwystrau rhag mynediad, lleoliadau profiad gwaith cydgysylltiedig, mentor hyfforddedig llawn amser wrth law i roi cyngor i newydd-ddyfodiaid a’r gweithlu presennol, a chynlluniau hyfforddi ymarferol, newydd eu dychmygu.
Bydd y rhaglen yn cael ei chryfhau gan bartneriaid cyflawni allweddol BBC Studios, NFTS Cymru, Ffilm Cymru Wales, Into Film, Culture Connect Wales, TAPE, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg y Cymoedd; Prifysgol De Cymru, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth a fydd yn arwain y ffordd gyda phartneriaid ehangach ac yn sicrhau bod Siop Un Stop yn gweithio i bobl ym mhob rhanbarth o Gymru.
Bydd tîm sy’n gweithio ar ran y clwstwr sgiliau yng Nghymru, yn cael ei gyflogi i ysgogi a chyflwyno gweithgarwch dros y ddwy flynedd gyntaf er mwyn sicrhau dechrau cydlynol ac effeithiol i’r clwstwr. Sue Jeffries, Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru, fydd yr arweinydd cyffredinol ar gyfer y prosiect, gyda’r Rheolwr Lleoliad a Chynhyrchu profiadol, Lowri Thomas yn arwain y tîm o ddydd i ddydd.
Dywedodd Sara Whybrew, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Gweithlu’r BFI: “Mae Cymru’n genedl allweddol i’r sector sgrin yn y DU, yn gartref i gynyrchiadau ar raddfa fawr sy’n cael eu dosbarthu ar draws y byd, yn ogystal â chynnwys yn yr iaith Gymraeg. Bydd y bartneriaeth sydd ar waith, dan arweiniad Sgil Cymru, yn adeiladu ar waith hanfodol sydd wedi’i ddechrau a gobeithiwn y bydd y Clwstwr Sgiliau yn darparu sylfaen gref ar gyfer adeiladu ymhellach ar hyfforddiant sy’n newid y gêm, a chyfleoedd dysgu seiliedig ar waith ar gyfer talent amrywiol a chynrychioliadol ar draws y genedl. Mae’n bleser mawr gennyf groesawu Sgil Cymru, Screen Alliance Wales, Cymru Greadigol, a’u partneriaid di-ri yn y diwydiant i bortffolio Clwstwr Sgiliau’r BFI, ac ni allaf aros i gwrdd â rhai o’r doniau newydd y byddant yn eu cefnogi i ddod i mewn, a dod ymlaen, mewn gyrfa ym maes cynhyrchu sgrin.”
Dywedodd Sue Jeffries, Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru: “Gyda balchder mae Sgil Cymru yn cymryd y rôl arweiniol yn y bartneriaeth hon. Mae’r ffaith bod y BFI, Cymru Greadigol, a BBC Studios wedi dangos eu hyder yn y genedl a’r sector drwy ymrwymo dwy flynedd o gyllid ar gyfer hyfforddiant yng Nghymru yn enfawr.
“Fel cwmni ni allwn aros i ddechrau ar y prosiect newydd cyffrous hwn. Bydd y Siop Un Stop yn dwyn ynghyd yr holl brosiectau hyfforddi gwych sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru yn ogystal â gweld rhai mentrau newydd arbennig, a fydd i gyd yn helpu’r sector i dyfu ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd Gweinidog Diwydiannau Creadigol Llywodraeth Cymru, Hannah Blythyn: “Mae ein Diwydiannau Creadigol yn parhau i fod yn stori lwyddiant gwirioneddol i Gymru. Ym maes cynhyrchu sgrin yn unig, mae economi Cymru yn gweld elw o unarddeg gwaith yn fwy ar bob punt a gaiff ei gwario.
“Mae conglfaen ein gwaith i ddatblygu a thyfu ein diwydiannau creadigol yn dibynnu ar inni feithrin a harneisio’n llwyddiannus yr ystod eang o dalent greadigol sydd gennym yma yng Nghymru. Rydym eisoes yn gweithio i ddarparu’r cymorth hwn drwy ein Cronfa Sgiliau Cymru Greadigol, ac rwy’n falch iawn o’n gweld yn gweithio gyda darparwyr allweddol i ddenu bron i £1miliwn o gyllid ychwanegol i Gymru i wella ymhellach ein gallu i baru talent â’r cyfleoedd cynyddol sydd gennym i gynnig ar draws y sector.”
Dywedodd Allison Dowzell, MD Screen Alliance Wales: “Mae Screen Alliance Wales wrth ein bodd i ymuno â Sgil Cymru a Chymru Greadigol yn y prosiect hollbwysig hwn i Gymru, wrth i ni gychwyn ar daith tuag at ddiwydiant sgrin fwy cynhwysol a chynrychioliadol. Mae ‘Stop Un Siop’ yn gyfle gwych, gan arwain newydd-ddyfodiaid a gweithwyr proffesiynol profiadol tuag at yrfaoedd boddhaus ym myd deinamig y sgrin. Ar y cyd â’n partneriaid, rydym wedi ymrwymo i dorri rhwystrau, meithrin talent, a llunio gweithlu sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth o’n cymunedau.”
Dywedodd Kris Green, Swyddog Gweithredol Hyfforddiant, BBC Studios Drama Productions: “Canolfan BBC Studios ym Mhorth y Rhath, Caerdydd yw cartref talent drama a sgrin yng Nghymru. Daw’r cydweithrediad hwn sydd wedi’i amseru’n berffaith gyda Sgil Cymru a Chymru Greadigol wrth i sebon cyfrwng Cymraeg, Pobol y Cwm, ddathlu ei hanner canmlwyddiant ym mis Hydref.
“Yn ystod blwyddyn pen-blwydd euraidd y sioe, bydd y bartneriaeth hon yn ein galluogi i ddod â’r Academi Pobol gyntaf erioed yn fyw; menter hyfforddi gyfannol a fydd yn diogelu’r doniau cynhyrchu a golygyddol Cymraeg eu hiaith ar gyfer dyfodol Pobol a’r diwydiant ehangach, tra hefyd yn creu cyfleoedd uwchsgilio i garfan o bobl greadigol anhygoel trwy ail gyfres ein comedi Gymraeg Anfamol. Bydd y fenter ar y cyd hefyd yn helpu i greu rolau newydd cyffrous i hyfforddeion ar raglen feddygol, oriau brig, arobryn BBC Studios, Casualty, sy’n parhau i ddifyrru miliynau.”
***************************************************************************
Ynglŷn â Chlystyrau Sgiliau BFI
Mae cyllid Clystyrau Sgiliau BFI yn galluogi sefydliadau i gydweithio â diwydiant lleol, darparwyr addysg a hyfforddiant i ddatblygu llwybrau cliriach i gyflogaeth hirdymor ym maes cynhyrchu ffilm a theledu. Mae’r Clystyrau Sgiliau yn gweld partneriaid lleol yn nodi prinderau a bylchau sgiliau ac yn cydlynu cyfleoedd sgiliau a hyfforddiant ar gyfer criwiau cynhyrchu islaw’r llinell yn eu hardal. Trwy’r Clystyrau, nôd y BFI yw adeiladu sylfaen sgiliau lleol trwy helpu pobl ledled y DU, yn enwedig y rhai o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol, i ddod o hyd i lwybrau hyfyw i’r diwydiant sgrin a chymorth datblygu gyrfa effeithiol.
Hyd yma, mae’r BFI wedi buddsoddi cyfanswm o £9m o arian y Loteri Genedlaethol dros dair blynedd yn y meysydd canlynol:
- Screen Yorkshire (Gogledd Lloegr): £2.3m
- Film London (Llundain, Sir Hertford, Surrey, a Sir Bwcingham): £2.2m
- Screen Scotland (Yr Alban): £1.1m
- Create Central (Gorllewin Canolbarth Lloegr): £1m
- Northern Ireland Screen (Gogledd Iwerddon): £0.9m
- Resource Productions (Berkshire): £0.6m
- Sgil Cymru (Cymru): £0.9m
Mae’r BFI yn elusen ddiwylliannol, yn ddosbarthwr y Loteri Genedlaethol, a phrif sefydliad y DU ar gyfer ffilm a’r ddelwedd symudol. Ein cenhadaeth yw:
- Cefnogi creadigrwydd a mynd ati i chwilio am y genhedlaeth nesaf o storïwyr y DU
- Tyfu a gofalu am Archif Genedlaethol y BFI, sef archif ffilm a theledu mwyaf y byd
- Cynnig yr ystod ehangaf o ddiwylliant delwedd symudol y DU a rhyngwladol trwy ein rhaglenni a’n gwyliau – a ddarperir ar-lein ac mewn lleoliadau
- Defnyddio ein gwybodaeth i addysgu a dyfnhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd o ffilm a’r ddelwedd symudol
- Gweithio gyda’r Llywodraeth a diwydiant i sicrhau twf parhaus diwydiannau sgrin y DU
Wedi’i sefydlu ym 1933, mae’r BFI yn elusen gofrestredig a lywodraethir gan Siarter Frenhinol. Mae Bwrdd Llywodraethwyr y BFI yn cael ei gadeirio gan Jay Hunt.