Yn 18 oed, roedd Brooklyn sydd yn byw ym Mhontypridd yn gorffen ysgol ac yn edrych i bontio’r bwlch o addysg i gyflogaeth. Ym mis Medi 2016, canfu y bont honno ar ffurf prentisiaeth gyda ITV Cymru Wales.
Roedd Brooklyn eisoes wedi cymryd rhan yn cynllun hyfforddi BBC Cymru ‘It’s My Shout’. Canfu hi am swydd prentisiaeth lefel 3 mewn cyfryngau creadigol a digidol gyda Sgil Cymru drwy Facebook.
Dywedodd Brooklyn:
“Ar ol fy mhrofiad gyda ‘It’s My Shout’ roedd hyn yn cadarnhau i mi fy mod eisiau gweithio yn y diwydiant teledu. Roedd ymwneud â gweithgareddau yn y diwydiant creadigol yn lle roeddwn yn teimlo fwyaf hyderus bob amser. Nawr mae gen i prentisiaeth anhygoel gyda ITV ac rwy’n caru’r swydd yr wyf yn ei wneud.”
Roedd rhieni Brooklyn yn gefnogol iawn ac yn gweld ei bod hi yn ymddiddori yn y brentisiaeth ac roedd hi yn falch o’u cymorth. Helpodd rhieni Brooklyn gyda’i ffurflen gais I Sgil Cymru, a fynychodd Brooklyn y gweithdai dethol gyda grŵp o bobl ifanc o oedran tebyg.
Dywedodd Brooklyn y trafodwyd prentisiaethau yn yr ysgol ond nid prentisiaethau a oedd yn seiliedig ar y cyfryngau.
Roedd pontio o’r ysgol syth i gyflogaeth yn arbennig o heriol ond roedd anwythiad Sgil Cymru yn ddefnyddiol iawn. Dywedodd Brooklyn roedd hi’n naturiol yn teimlo’n nerfus oherwydd roedd hi’n gwybod bod hwn yn gyfle mawr ac yn siawns I wneud rhywbeth gallai hi dim ond wedi breuddwydio amdano. Bu hi yn cymryd rhan mewn tasgau grŵp, dysgu am byrddau stori a sgiliau cyflwyno.
Nid oedd Brooklyn yn siŵr beth i’w ddisgwyl nes iddi ddechrau gweithio a dysgu.
Brooklyn yw’r cyntaf yn y teulu i fynd i lawr y llwybr o brentisiaeth. Fodd bynnag nid oedd pwysau arni i fynd i brifysgol. Mae ei rhieni nawr yn hapus iawn am ei chyflogaeth gydag ITV.
Roedd gan Brooklyn graddau da yn yr ysgol, ond nid oedd llawer o bobl yn disgwyl iddi ddewis gwneud Prentisiaeth. Roedd hi’n nabod rhai pobl o’i hysgol oedd wedi dewis gwneud prentisiaeth ond fel y gwyr hi, hi oedd yr unig ferch yn ei blwyddyn. Roedd Brooklyn yn glir taw Prentisiaeth oedd y llwybr cywir iddi hi.
Tra yn gwneud ei prentisiaeth lefel 3 yn y cyfryngau creadigol a digidol gyda ITV ac yn bendant yn mwynhau, mae Brooklyn yn teimlo bod y prentisiaeth wedi rhoi llawer o gyfleuoedd iddi a bod pawb yn gefnogol iawn.
Dywedodd Brooklyn:
“Rwyf wedi cael y cyfle i weithio a cwrdd â phobl a dysgu. Mae’r cyfleoedd yn ddiddiwedd. Mae pawb yn ITV mor hyfryd – rwyf wedi cael fy nghroesawu yn llwyr gan bawb, ac rwy’n teimlo’n rhan o’r tîm.”
Dywedodd Fiona Frances, ITV Cymru Wales:
“Yn ITV Cymru Wales yr ydym bob amser yn edrych allan am dalent newydd ac rydym 100% tu ôl cyfleoedd i ennill-tra-yn-dysgu. Mae ein prentisiaid wedi dod o bob fath o gefndiroedd ac rydym yn rhoi y cyfle iddynt barhau eu haddysg mewn amgylchedd gweithle. Ein nôd yw rhoi profiad a sgiliau ymarferol i’r prentisiaid er mwyn iddynt blodeuo yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru.”