CRIW | Swydd Ddisgrifiad

CRIW

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Prif Gyflogwr: Grwp Llandrillo Menai

Rôl Prentis: Prentis CRIW

Lleoliad y Rôl: Lleoliadau gyda chwmnïau amrywiol yn ardal gogledd Cymru.

*Mae’n angenrheidiol fod angen i brentis gael trwydded yrru a thrafnidiaeth bersonol.*

Mae Cynllun Prentisiaeth CRIW yn ffordd ardderchog o ddod i mewn i’r diwydiant, ac i gael blas ar sut mae’r sector wir yn gweithio, gan y bydd y prentis yn symud o gynhyrchiad i gynhyrchiad, yn ddibynnol ar y sgediwl saethu.

Mae’r rôl yn cynnig cyfleon i ennill profiad hanfodol o’r broses o gynhyrchu cynnwys ac yn cynnig cyfleon rhwydweithio eang, rhywbeth gwerthfawr iawn ym myd y Cyfryngau.

Mae criw cynhyrchiad ffilm neu deledu yn cynnwys amrywiaeth o wahanol adrannau, a gall gael ei staffio yn gyfan gwbl gan weithwyr llawrydd sy’n symud o gynhyrchiad i gynhyrchiad. Fel Prentis CRIW, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr llawrydd o fewn pa bynnag adran, gan gynnwys:


Cyfarwyddwyr Cynorthwyol – sicrhau cyfathrebu da ar set rhwng adrannau, gweithio gyda chast a chefnogi artistiaid

Swyddfa Gynhyrchu – darparu cefnogaeth logistaidd trwy drefnu teithio / llety, cynhyrchu a dosbarthu gwaith papur

Lleoliadau – sicrhau bod y lleoliad neu’r stiwdio yn barod ar gyfer y saethu, cynnal a chadw trwy gydol y diwrnod saethu, paratoi lleoliadau newydd

Adran Gelf – helpu i greu propiau, helpu i ddosbarthu propiau, ac am storio propiau.

Ôl-gynhyrchu – darparu cefnogaeth ôl-gynhyrchu, gan ymwneud â ffeiliau fideo a sain.

Efallai bydd cyfleoedd mewn adrannau eraill hefyd yn dibynnu ar ofynion cynhyrchu. Y naill ffordd neu’r llall, byddwch hefyd yn gwneud te / coffi, yn siarad ar y ffôn / radio ac yn debygol o dreulio’r rhan fwyaf o’r dydd ar eich traed. Efallai y cewch eich hun yn gweithio am nifer o wythnosau ar un cynhyrchiad, ac yna ychydig ddyddiau yn unig ar un arall – yn union fel gweithiwr llawrydd.

Gall y rôl gynnwys gweithio oriau hir ac anghymdeithasol. Nid oes angen profiad blaenorol o weithio ym maes cynhyrchu, ond yn bendant mae angen i chi fod yn llawn cymhelliant, yn frwdfrydig ac yn barod i weithio’n galed.

Bydd protocolau gwaith Covid-19 mewn lle, fesul cynhyrchiad.

Gofynion

  • Byw yng Nghymru
  • Y gallu i weithio ar gynyrchiadau wedi’i lleoli yng ngogledd Cymru.
  • Diddordeb brwd mewn gweithio mewn rolau y tu ôl i’r llenni ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu
  • Yn gallu ymrwymo i 12 mis.
  • Mynediad i’r rhyngrwyd ar gyfer dysgu oddi ar y safle pan fo angen
  • Trwydded yrru lân a thrafnidiaeth bersonol
  • Nid oes angen profiad yn y diwydiant.
  • Mae angen siaradwyr Cymraeg rhugl ar gyfer nifer o swyddi.
  • Byddai’r awydd i ddysgu’r Gymraeg hefyd o fantais.

Cyflog
£12,500 PA.
Wrth weithio fel Prentis CRIW, byddwch yn cwblhau Prentisiaeth Lefel 3, 12 mis, yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol.

Pa fath o berson sydd angen i mi fod?
•  Cyfathrebwr da
•  Dadansoddol
•  Hunan-gychwynwr
•  Penderfynol
•  Trefnus
•  Diplomataidd
•  Un da am gymryd cyfarwyddyd

Sgiliau Angenrheidiol:
• Sgiliau TG cryf, gan gynnwys pecynnau Microsoft, fel Word ac Excel;
•  Y gallu i dderbyn cyfarwyddyd ac i weithio fel rhan o dîm;
•  Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol dda;
•  Menter ac ymwybyddiaeth;
•  Y gallu i ymateb ac i weithio’n gyflym, dan bwysau;
• Mwynhau gweithio mewn awyrgylch prysur ac o dan bwysau;
• Trwydded yrru lân;
•  Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer rhai rolau ond nid yw’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer bob ymgeisydd.

Cymwyseddau Cyffredinol
• Gwaith tîm – gweithio’n effeithiol iawn fel rhan o dîm; yn gweithio er budd y tîm cyfan
• Rheoli cydberthnasau – gallu creu a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol gydag amrywiaeth o bobl.
• Cyfathrebu – y gallu i gyfleu neges yn glir drwy fabwysiadu amrywiaeth o arddulliau, dulliau a thechnegau sy’n briodol i’r gynulleidfa ac i natur y wybodaeth
•  Dylanwadu a darbwyllo – y gallu i gyflwyno dadleuon cadarn ac wedi’u rhesymu’n dda i ddarbwyllo pobl eraill. Gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddarbwyllo pobl mewn ffordd sy’n arwain at gytundeb neu newid ymddygiad
• Cynllunio a threfnu – gallu bod yn flaengar er mwyn sefydlu dull gweithredu effeithiol a phriodol i chi’ch hun ac eraill. Blaenoriaethu a chynllunio gweithgareddau gan ystyried yr holl faterion a ffactorau perthnasol megis terfynau amser, gofynion staffio ac adnoddau.
• Dyfalbarhad – gallu rheoli effeithiolrwydd personol drwy reoli emosiynau yn wyneb pwysau, rhwystrau neu wrth ddelio â sefyllfaoedd cythruddol. Gallu dangos ymagwedd at waith a nodweddir gan ymrwymiad, cymhelliant a brwdfrydedd.
• Ysgogiad – dangos ymrwymiad, cymhelliant ac egni.
• Hunanddatblygiad – dangos cryfderau personol ac anghenion datblygu, ac yn ceisio gwella perfformiad yn barhaus drwy feithrin sgiliau a dysgu ymddygiad newydd.
• Hyblygrwydd – addasu a gweithio’n effeithiol gydag unigolion, grwpiau neu mewn sefyllfaoedd amrywiol. Gallu deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol a gwrthwynebol ar fater, addasu dull o weithredu wrth i ofynion sefyllfa newid, a derbyn newidiadau yn eich sefydliad eich hun neu ofynion eich swydd yn hawdd.

Mae Sgil Cymru wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, a chefndir economaidd-gymdeithasol.

Dyddiadau pwysig a sut i ymgeisio

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 15/09/21 @ Canol dydd.
Gweithdai: 20/09/21 – 22/09/21
Gwaith yn dechrau: 27/09/21

Cwestiynau? Cysylltwch YMA neu am atebion i Gwestiynau Cyffredinol, dilynwch y linc YMA.