Ar Ddydd Iau 16eg o Fawrth, mynychodd dros gant o westeion o’r diwydiant Ddathliad cyntaf Sgil Cymru, noson i ddathlu llwyddiant prentisiaid dosbarth 2016 a nodi blwyddyn o hyfforddiant proffesiynol ar gyfer y cyfryngau yn eu canolfan hyfforddi yng Nghaerdydd.
Wedi’i gynnal yn Pinewood Studio Cymru, a’i noddi gan Sgrîn Cymru, Lockett TV and Film Transport a Choleg Caerdydd a’r Fro trwy’r Cynrhair Ansawdd Sgiliau, cafodd y digwyddiad ei ddarlledu’n fyw ar Made in Cardiff TV. Yn dilyn rhwydweithio anffurfiol ar y llawr mezzanine, derbynodd y prentisiaid wobr yr un, er mwyn nodi eu graddio, wedi’i cyflwyno iddynt gan Jerry Lockett a Nadine Roberts.
Uchafbwynt y noson oedd cyflwyniad Gwobr Arbennig Creative Risk Solutions, sydd yn cydnabod llwyddiannau cyn-brentisiaid, fel ysbrydoliaeth i brentisiaid y dyfodol. Rhoddwyd y wobr o £250 ar y cyd i Gabriella Gardner a Simon Guy.
Roedd Gabriella yn brentis Cynorthwy-ydd Castio gyda Regan Management, a chwblhaodd hi’r rhaglen yn 2014. Ers hynny, mae Regan Management wedi agor swyddfa newydd ym Mryste, ac mae Gabby wedi gweithio i fyny at swydd asiant.
Hefyd wedi cwblhau’r cwrs yn 2014, roedd Simon yn brentis Camera gyda BBC Cymru Wales, yn gweithio ar ddramau gan gynnwys Casualty a Pobl y Cwm. Ar ddiwedd ei brentisiaeth, cafodd Simon swydd fel Gweithredydd Camera Dan Hyfforddiant gyda’r BBC, ac erbyn hyn yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Camera.
Ar ol dim ond blwyddyn yn Pinewood Studio Cymru, Sgil Cymru ydy’r hyfforddwr cyfryngau mwyaf yng Nghymru- yn cynnal tri rhaglen brentisiaeth ar yr un pryd, a chyrsiau pythefnos ar gyfer Rheolwyr Cynhyrchu, Arolygwyr Sgript a Rheolwyr Lleoliadau ffilm, cwrs carlam 3ydd Gyfarwyddwr Cynorthwyol, a hyddorddiant mewn meddalwedd Movie Magic Budgeting a Scheduling.
Dywedodd Sue Jeffries, Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru
“Mae’n hyfryd i fod wedi cael cyfle i ddathlu graddio’r dosbarth prentisiaeth yma, ac i glywed hanes sut mae eu gyrfaoedd yn symud ymlaen o fewn y diwydiant. Hoffwn ni ddiolch i’n noddwyr – Sgrîn Cymru, Lockett TV & Film Transport, a Choleg Caerdydd a’r Fro trwy’r Gynrhair Ansawdd Sgiliau, Pinewood Studio Wales am gael cynnal y digwyddiad yn yr adeilad, ac i Creative Risk Solutions am sefydlu beth fydd yn awr yn wobr arbennig flynyddol yn cydnabod yr ysbrydoliaeth gall cyn-brentisiaid roi i eraill.
Edrychwn ni ymlaen at flwyddyn wych arall o hyfforddiant proffesiynol mewn ffilm a theledu yn Pinewood Studio Cymru.”