Gweinyddydd Sgil Cymru

Mae ceisiadau ar gyfer y swydd yma nawr ar gau.

Mae Sgil Cymru yn chwilio am Weinyddydd gwych.  Gallu cyfrifiadurol a chyfathrebu yn y Gymraeg a Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd yma.  Gall y swydd hon fod yn rhan amser i’r person perffaith.  Cyflog i’w drafod yn unol ậphrofiad.  

Lleoliad: Sgil Cymru, Caerdydd

Prif dyletswyddau a Cyfrifoldebau

  • Y gallu i darllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.
  • Cynnig gwasanaeth effeithiol cefnogol i staff Sgil Cymru a chynnig gwasanaeth i’r cleientiaid sy’n mynychu cyrsiau Sgil Cymru, gan gynnwys prentisiaid.
  • Rheoli a gweinyddu yn y swyddfa, gan gynnwys sicrhau bod y swyddfa yn daclus ac yn weddus.  Cynorthwyo y Rheolwr Gyfarwyddwr, y Pennaeth Hyfforddi, Rheolwyr Prosiectau, Aseswyr, a chydweithio gyda’r gweithwyr yn y swyddfa yn y gweinyddiaeth a rhediad o brosiectau hyfforddi.
  • Rheoli’r swyddfa o ddydd i ddydd gan gynnwys ateb y ffôn, ymdrin â’r post ag ebost, ffeilio, croesawu ymwelwyr a dyletswyddau clerigol eraill gan gynnwys goruchwylio’r cyflenwad offer swyddfa, llungopïo a sganio. 
  • Cyd-drefnu dyddiaduron fydd yn cynnwys amserlennu a cyd-drefnu cyfweliadau, cyfarfodydd, digwyddiadau, apwyntiadau, cyrsiau byrion a tasgau eraill tebyg ar gyfer aelodau o staff.
  • Trefnu cyrsiau byrion a sicrhau bod y gwaith papur/arlwyo/ cyfleusterau lluniaeth yn eu lle, boed hynny yn y swyddfa neu mewn canolfannau eraill.  Bydd hyn yn cynnwys gwneud diodydd poeth, golchi llestri a clirio. 
  • Darparu cymorth gyda gwaith cyfieithu (Cymraeg-Saesneg / Saesneg-Cymraeg)
  • Trefnu a cynnal ffeiliau electroneg a papur ar gyfer prosiectau.
  • Cadw cofnodion mewn cyfarfodydd penodol
  • Gweithio o fewn polisïau a gweithdrefnau Cyfle Cyfartal y Cwmni 
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill rhesymol y gallai bod gofyn i chi eu gwneud.

Ceisiwch drwy anfon CV at sue@sgilcymru.com

Dyddiad Cau:  9fed o Fawrth am 1200