Cafodd tîm Sgil Cymru’r cyfleiymweld ȃ un o cgfranogwyr Camu Fyny; Jess Fothergill.
Dechreuodd Jess ei gyrfa yn yr Adran Wisgoedd trwy gwblhau gradd Lluniad Gwisgoedd. Yn ystod ei hamser yn y Brifysgol, cafodd Jess y cyfle i gwrdd â phobl oedd yn gweithio o fewn y diwydiant, a gwariodd ei Haf yn gweithio ar amryw o gynyrchiadau fel profiad gwaith.
Ar ôl gweithio fel person Gwisgoedd wrth-law am flynyddoedd, teimlodd Jess, a’i phenaethiaid adran, ei bod hi’n amser i ‘gamu fyny’.
Tra o dan y faner Camu Fyny, gweithioedd Jess fel Goruchwyliwr Gwisgoedd ar y rhaglenJamie Johnson ar CBBC. Dyma’r tro cyntaf i Jess weithio fel Goruchwyliwr Gwisgoedd, a diolch i Gamu Fyny, mae hi wedi gallu cymryd yr amser i gysgodi Goruchwylwyr Gwisgoedd eraill er mwyn sicrhau ei bod hi’n dysgu’r swydd yn llawn..
O ddyddiddydd, cyfrifoldeb Jess oedd i sicrhau bod y gwisgoeddigydynbarod ar gyfer yr artistiaid ac ynbarod ar gyferdiwrnod o ffilmio. Mi oedd Jess ynsicrhau bod pawbgydaphopethmaennhwangen ar gyfer y set. ac wedi’rffilmioorffen am y diwrnod, mi oedd Jess yntreulio’iamserynparatoigwisgoedd ar gyfer y diwrnodnesaf.
Mae ffilmioJamie Johnsonwedi dod i ben nawr ac mae Jess ‘di gaelcynnig, ac wedi derbyn, cytundeb fel Goruchwyliwr Gwisgoedd ar Casualty.
Dywedodd Jess bod yr holl brofiad o ‘gamu fyny’ wedi bod yn aruthrol ond yn bleserus.
“Mae wedi bod mor ffantastig. Mae Camu Fyny yn eich helpu chi i wneud rhywbeth gwahanol. Mae wedi gwneud byd o wahaniaeth i mi”
Rydym yn defnyddio cwcis i ganiatáu i’n safle weithio’n briodol, personoli cynnwys a hysbysebion, darparu nodweddion ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a dadansoddi ein traffig. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis. // We use cookies to personalise content and ads, to provide social media features and to analyse our traffic. You can manage cookies via your browser settings. By continuing to browse the site you are agreeing to our use of cookies.