Llongyfarchiadau i Owen Deacon, un o’n cyn brentisiaid gyda ITV Cymru Wales am gymryd y cam nesaf yn ei yrfa trwy ddechrau ar ein Prentisiaeth Lefel 4 mewn Hysbysebu a Chyfathrebu Marchnata gyda’i gyflogwr newydd, IJPR Cymru.
Mae IJPR yn ymdrin â’r cyhoeddusrwydd ar gyfer rhaglenni eiconig fel Skins, Rev, Mad Dogs, The Missing, Wallander a The Voice UK. Ymhlith y rhaglenni presennol mae Call the Midwife, Cold Feet, Who Do You Think You Are, Lucky Man a’r ffenomenon The Crown. Mae IJPR hefyd yn rheoli’r cyhoeddusrwydd corfforaethol ar gyfer nifer o gwmnïau cynhyrchu proffil uchel. Agorwyd swyddfa IJPR yng Nghymru yn 2017 o fewn Stiwdio Blaidd Cymru. Ers hynny mae IJPR Cymru wedi gweithio ar y cynhyrchiad cyntaf a ffilmiwyd yno, A Discovery of Witches, ar gyfer Sky One. Ar hyn o bryd maen nhw’n gweithio ar draws addasiad y BBC o His Dark Materials, gyda llawer mwy o raglenni ar y gweill i’w cynhyrchu yn y stiwdios.
Dewisodd Owen ymgeisio am y brentisiaeth gyda IJPR Cymru ar ôl gweld yr hysbyseb swydd mewn cylchlythyr prentisiaethau Sgil Cymru. Dwedodd Owen:
Dewisais symud ymlaen i brentisiaeth lefel 4 o lefel 3 oherwydd roeddwn i’n teimlo mai hwn oedd y cam gorau i fi. Rwyf wedi bod yn derbyn cylchlythyron Sgil Cymru am sbel a phan welais brentisiaeth gyda IJPR Cymru mewn cyfryngau cymdeithasol, roeddwn i’n gwybod ei fod i mi.
Wrth gwblhau ei brentisiaeth gyda Sgil Cymru bydd Owen yn gweithio’n llawn amser dros y 15-mis nesaf i IJPR Cymru fel Prentis Cyhoeddusrwydd a Chynorthwy-ydd Cyfryngau Cymdeithasol.
Mae swydd Owen yn amrywiol ac yn gallu bod yn unrhywbeth o baratoi lluniau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol at helpu rhedeg tudalennau cyfryngau cymdeithasol A Discovery of Witches, His Dark Materials, Screen Alliance Wales a Bad Wolf. Mae Owen wedi bod yn treulio amser ar set gyda’r cast a chriw yn tynnu lluniau ac yn cysgodi aelodau eraill o’r tîm cyhoeddusrwydd.
Gyda blwyddyn gyda ITV Cymru Wales yn Sylfaen mae Owen yn awyddus i ddefnyddio’r 15-mis nesaf yn adeiladu ar ei sgiliau gyda’r gobaith o aros yn y sector cyhoeddusrwydd a chyfryngau cymdeithasol.
Dwedodd Owen:
Rwy’n teimlo y bydd y prentisiaeth lefel 4 hon o fudd i’m dyfodol mewn sawl ffordd. Mae’r ffaith ei fod yn gyfwerth â blwyddyn gyntaf prifysgol yn wych oherwydd ei fod yn golygu y bydd gennyf ddiploma lefel barchus heb gael miloedd o bunnoedd o ddyled, wrth gael llawer o brofiad yn y gweithle. Rwyf hefyd yn meddwl y bydd gweithio mewn ardal fel cyfryngau cymdeithasol, a fydd yn tyfu’n fwy ac yn fwy, yn dod yn faes yr wyf yn arbenigo ynddo, yn y dyfodol.