Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.
Cwmni: Boom Cymru
Rôl Prentisiaeth: Prentis Cydlynydd Cynhyrchu
Lleoliad: Gloworks, Caerdydd
Am y Sefydliad
Mae Boom Cymru yn un o gwmnïoedd cynhenid mwyaf Cymru. Fe’i sefydlwyd yn 1994, ac mae’r cwmni aml-gyfrwng hwn bellach yn cynhyrchu dros 400 awr o gynnwys yn flynyddol i S4C, BBC Wales a BBC One. Cyflogir tua 220 o staff yng Nghymru, sy’n cynnwys adrannau Boom Cymru a Boom Plant yn ogystal â’r cwmni ôl-gynhyrchu blaenllaw Gorilla, y cwmni animeiddio rhyngwladol Cloth Cat, a chwmni Effeithiau Arbennig / Rhyngweithio Bait Studio.
Mae Boom yn rhan o ITV Studios sydd â hanes llwyddiannus mewn cynhyrchu rhaglenni ffeithiol, adloniant ffeithiol, adloniant, drama a rhaglenni plant. Nodweddir cynyrchiadau’r cwmni gan eu hymrwymiad i adrodd straeon cryf gyda’r safonau cynhyrchu o’r radd flaenaf.
Disgrifiad Swydd
Bydd y Prentis Cydlynydd Cynhyrchu yn gweithio gyda’r Pennaeth Cynhyrchu i reoli prosiectau teledu o’r cyfnod cyn-gynhyrchu hyd at ffilmio, ôl-gynhyrchu a chyflwyno’r cynnwys terfynol i’r darlledwr.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn trefnu a darparu adnoddau ar gyfer cynyrchiadau yn ôl y galw.
Llinellau Cyfrifoldeb
Yn adrodd i’r Pennaeth Cynhyrchu
Prif ddyletswyddau:
- Cynorthwyo’r timau cynhyrchu gyda threfniadau a gweinyddiaeth cynyrchiadau;
- Cofnodi’n gywir y costau sy’n gysylltiedig â phrosiectau ac adrodd hyn i’r Pennaeth Cynhyrchu a’r Adran Gyllid;
- Bydd dyletswyddau eraill yn cynnwys (ond heb eu cyfyngu i): creu amserlenni, rheoli archif a chliriadau hawlfraint;
- Sicrhau bod holl ofynion cyflenwi yn cael eu bodloni ar gyfer y darlledwr priodol;
- Logio deunydd, cynnwys crai acoOffer;
- Cyfrifoldeb dros drefniadau teithio a dros nos;
- Gwaith papur ôl-gynhyrchu;
- Gwaith achlysurol fel rhedwr ar leoliad.
Sgiliau Hanfodol:
- Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
- Sgiliau cyfathrebu da;
- Sgiliau gweinyddu a threfnu;
- Medru gweithio’n effeithiol fel aelod o dîm;
- Agwedd bositif
Sgiliau Dymunol:
- Byddai trwydded yrru yn fantais i’r swydd hon.
Fframwaith
Tra’n gweithio i Boom Cymru byddwch yn cwblhau Prentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol trwy Sgil Cymru, darparwr hyfforddiant yng Nghaerdydd.