Cwmni: Amplified Business Content
Rôl Prentisiaeth: Prentis Cynorthwy-ydd Cynnwys Fideo
Lleoliad: Caerdydd
Am y Sefydliad
Wedi ei lleoli yng Nghaerdydd a Llundain, rydym yn creu, curadu ac yn rhannu cynnwys. Rydym yn gwneud hyn drwy digwyddiadau, cyfryngau cymdeithasol, digidol a print. Rydym yn cynhyrchu digwyddiadau ein hunan ac I gwsmeriaid. Rydym yn argraffi mewn print ac ar-lein.
Mae ein digwyddiadau yn cynnwys Gwobrau Entrepreneur GB NatWest, Integrated Live a GDPR Cynhadledd Ewrop, tra bod prosiectau fideo yn cynnwys Redrow, Sefydliad Aren Cymru a mwy.
Mae aelodau ein tim yn uchelgeisiol, deinamig ac yn mwynhau gweithio mewn gweithle lle mae eu barn a’u syniadau yn cyfri, a lle nad ydynt yn cael eu dal nol yn nhermau datblygu. Rydym yn gweithio’n galed ond rydym yn mwynhau ein gwaith ac yn cael hwyl hyd y ffordd.
Mae’n prif swyddfa ni wedi ei leoli gyferbyn â Chastell Caerdydd yng nghalon canol y ddinas, ac rydym yn gallu gweld Stadiwm Principality o’n gardd ar y tô!
Disgrifiad Swydd
Os rydych yn chwilio am brofiad diflas, heb ddyfodol, sydd yn undonog a dim cyfle I ddatblygu, rydych chi wedi dod i’r lle anghywir!
Ar hyn o bryd rydym yn edrych am brentis cynnwys fideo uchelgeisiol, a fydd yn dod yn aelod gwerthfawr o’n asiantaeth marchnata a digwyddiadau a lleolir yng Nghaerdydd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus dim dim ond yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau newydd a gweithio fel rhan o dîm deinamig, ond byddant yn ennill wrth iddynt ddysgu drwy weithio ar nifer o brosiectau cyffrous, proffil uchel gan gynnwys seremonïau gwobrwyo a chynadleddau. Eu prif rôl fydd cynorthwyo’r uwch fideograffydd, yn darparu cynnwys fideo i gwsmeriaid a prosiectau mewnol. Gofynnir hefyd i’r ymgeisydd llwyddiannus I weithio ar ychydig o waith dylunio graffig.
Dylai’r ymgeisydd perffaith:
- Bod yn gyfarwydd i ryw raddau â meddalwedd golygu fideo, neu sgiliau golygu fideo sylfaenol
- Dawn creadigol
- Meddu llygaid craff
- Gyfarwydd i ryw raddau gyda meddalwedd dylunio, neu sgiliau dylunio sylfaenol (nid yn hanfodol)
- Yn gallu blaenoriaethu’r llwyth gwaith
- Yn gyfforddus yn gweithio i derfynau amser tynn
- Sgiliau cyfathrebu gwych
- Agwedd ‘gallu gwneud’ i weithio
- Fod yn ddyfeisgar
- Peidio bod ofn i ofyn cwestiynau
- Bod yn hunan-gymhelliant
Bydd diwrnod cyffredin yn cynnwys y canlynol:
- Cysylltu gyda chleientiaid i drefnu sesiynau ffilmio
- Cynllunio creadigol
- Golygu
- Cyfrannu syniadau creadigol i gynigion
- Helpu fideograffydd uwch ar sesiynau ffilmio
- Cynorthwyo’r uwch dylunydd
Fframwaith
Tra’n gweithio i Amplified Business Content byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.
Cyflog
Yr union gyflog ar gyfer y swydd hon ydy £4.50 yr awr. Y Isafswm Lwfans Cenedlaethol ar gyfer Prentis, yw £3.50 yr awr.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.gov.uk/national-minimum-wage-rates
Sut i Ymgeisio
Lawrlwythwch a chyflawnwch y ffurflen gais a’r ffurflen monitro amrywiaeth ar gyfer y rôl hon. Ebostiwch y ddwy ffurflen gyflawn i help@sgilcymru.com. Byddwch yn cael cadarhnad fod eich cais wedi ei dderbyn unwaith y bydd aelod o staff wedi ei gwirio.
Os nad ydych wedi cael ymateb o fewn 24awr (heb gynnwys penwythnos), ffoniwch 07843 779870 ogydd.
Os oes ganddoch unrhyw gwestiynnau am y prentisiaethau, edrychwch ar ein Cwestiynnau Cyffredin ar y wefan.
Dyddiad Cau
1200 dydd Llun 3ydd Gorffenaf 2017.