Cwmni: Real SFX
Rôl Prentisiaeth: Prentis Effeithiau Arbennig
Lleoliad: Penarth Road, Caerdydd
Am y Sefydliad
Mae Real SFX yn gwmni effeithiau arbennig ymarferol sy’n arbenigo mewn effeithiau atmosfferig, tân, ffrwydron, rigiau mecanyddol, modelau a phropiau meddal. Mae’r tîm o oruchwylwyr a thechnegwyr medrus yn creu effeithiau corfforol pwrpasol ar gyfer y diwydiant Teledu, Ffilm a Digwyddiadau. Gyda’r gweithdy llawn swyddogaethol yng Nghaerdydd, mae’r tîm yn teithio ledled y DU yn gweithio ar gynyrchiadau teledu megis Peaky Blinders, Luther a Sherlock yn ogystal â ffilmiau nodwedd megis Free Fire, Show Dogs, Final Score a Hunter Killer.
Disgrifiad Swydd
Mae Real SFX yn recriwtio am Brentis Effeithiau Arbennig i ymuno â’u tîm yng Nghaerdydd. Plis nodwch nad yw hon yn swydd sy’n cynnwys prostheteg neu golur ac nid yw Real SFX yn gwmni CGI ond yn gwmni effeithiau arbennig sy’n creu amrywiaeth o effeithiau arbennig corfforol. Fel prentis byddwch yn gweithio yn y gweithdy yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel rhan o’r criw yn helpu i greu, adeiladu a gweithredu effeithiau arbennig corfforol.
Bydd y Prentis Effeithiau Arbennig delfrydol gyda:
- Trwydded gyrru glan efo oleia 3 blynedd o brofiad gyrru
- Agwedd hyblyg i oriau gwaith
- Diddordeb mewn peirianneg, mecaneg, gwaith coed, gwaith trydan a gwneud modelau
- Agwedd hyblyg ac arloesol, yn mwynhau dysgu ac yn gallu meddwl yn chwim i ddatrys problemau
- Ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch ac yn barod i wrando a dysgu oddi wrth y technegwyr profiadol
- Sgiliau gwrando a chyfathrebu cryf
- Yn gweithio’n dda fel rhan o dîm
- Yn fodlon teithio ar gyfer gwaith gan fod Real SFX yn gweithio dros y DU i gyd
Bydd gofyn i’r Prentis Effeithiau Arbennig:
- Gadw’r gweithdy yn lan ac yn daclus er mwyn cadw safle gweithio saff i’r tîm
- Gosod a ddadlwytho ‘kit’ ar gyfer cynhyrchiadau ar faniau y cwmni
- Cadw llygad ar stoc a’u hail-archebu pan fo’r angen
- Cadw stoc, gosodiadau a ffitiadau yn drefnus ac yn daclus
- Cynorthwyo’r Technegwyr Effeithiau Arbennig gyda’r cynnal a chadw o’r offer ac effeithiau
- Cwblhau tasgiau rhwng yr adran Effeithiau Arbennig ac adrannau eraill
- Dysgu am y wahanol fathau o effeithiau arbennig a pha offer a deunyddiau sydd angen eu creu
- Cadw tystiolaeth o’r gweithle ar gyfer y cymhwyster Diploma
Tra’n gweithio fel Prentis Effeithiau Arbennig bydd gennych y cyfle i ddysgu amrywiaeth o sgiliau o fewn y gweithdy. Hefyd bydd gennych gyfle i ddefnyddio amrywiaeth o beiriannau arbenigol sydd yn cael eu defnyddio ar gyfer effeithiau arbennig fel gwynt, glaw, eira a thân. Bydd hyn yn rhoi’r siawns i weld y broses effeithiau arbennig a sut i ddefnyddio pyrotechnics yn gywir.
Sgiliau dymunol ond nid yn hanfodol
- Rhygl yn y Gymraeg
- Yn gallu defnyddio Microsoft Office e.e. Word ac Excel
Fframwaith
Tra’n gweithio i Real SFX byddwch yn cwblhau Prentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol trwy Sgil Cymru, darparwr hyfforddiant yng Nghaerdydd.
Cyflog
Y cyflog ar gyfer y rôl hon yw £5 yr awr ond mae’n bosib ei drafod yn ddibynnol ar brofiad ac arbenigedd.
Am fwy o wybodaeth am Isafswm Cyflog Cenedlaethol i Brentis ewch i www.gov.uk/national-minimum-wage-rates
Sut i Ymgeisio
Cliciwch yma i gwblhau y ffurflen gais.
Os oes ganddoch unrhyw gwestiynnau am y prentisiaethau, edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin.
Dyddiad Cau
1200 Dydd Llun, 23ain o Gorffennaf 2018
Cliciwch yma am fersiwn PDF o’r swydd ddisgrifiad.