Prentis Gwe a Marchnata – Gwe Cambrian Web Cyf

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Cwmni:                      Gwe Cambrian Web Cyf
Rôl Prentisiaeth:    Prentis Gwe a Marchnata
Lleoliad:                    Aberystwyth

Am y Sefydliad

Mae Gwe Cambrian Web yn gwmni datblygu gwefannau a marchnata digidol yn Aberystwyth, Canolbarth Cymru.

Rydym yn frwd dros adeiladu gwefannau sy’n weledol wych, sy’n  cynnwys yr holl nodweddion sydd eu hangen ar ein cwsmeriaid. Mae arnom angen meddyliau creadigol newydd i ymuno â’n tîm!

Ein prif ffocws yw helpu i gael y  Cymraeg ar-lein, trwy gynnig gwasanaethau dylunio gwefannau dwyieithog heb gost ychwanegol i’n cwsmeriaid. Mae’r iaith Gymraeg yn un o’n prif ffocws i ni ac rydym yn awyddus i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn busnes mewn cymaint o ffyrdd â phosib.

Disgrifiad Swydd

Dewch yn rhan o’r tîm:

Rydym yn chwilio am rywun sydd â diddordeb ymhopeth digidol i ymuno â’n tîm bach yma yn Aberystwyth. Os ydych chi’n chwilio am y cyfle i ymuno a’r byd hysbysebu a marchnata gan ddefnyddio digidol, dyma’r swydd i chi!

Bydd aelod delfrydol o’r tîm yn gallu helpu ein busnes i dyfu trwy ddefnyddio ffyrdd arloesol o farchnata a hyrwyddo amrywiaeth o gleientiaid, yn ogystal â’n busnes ein hunain (dod o hyd i gyfleoedd marchnata newydd). Byddant yn gallu cynorthwyo mewn cynllunio a datblygu gwefannau, ateb ymholiadau, cynllunio strategaethau cyfryngau cymdeithasol ac ymgyrchoedd, trefnu cyfarfodydd a mwy. Mae meddu ar safon Saesneg o’r radd flaenaf, ynghyd a sgiliau ysgrifennu hyderus a chryf yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Fel Busnes dwyieithog gyda Gwobr Aur yn y Gymraeg gan Siarter Iaith Ceredigion, byddem yn falch iawn i gael siaradwr Cymraeg hyderus yn ymuno â’r tîm, ond os nad ydych chi yn rhugl ac yn fodlon dysgu, byddwn yn rhoi’r cyfle i chi fynd ar gwrs  dysgu Cymraeg fel rhan o’ch hyfforddiant.

Rdym yn chwilio am rywun sy’n gyfforddus wrth ddefnyddio pob math o gyfryngau cymdeithasol, y rhyngrwyd a negeseuon e-bost. Mae’n bwysig eich bod chi’n gyfforddus i siarad ar y ffôn ac ar-lein, yn ogystal ag wyneb yn wyneb. Rydym yn falch iawn o’n gwasanaeth cwsmeriaid cyfeillgar, ac yn awyddus i sicrhau bod y gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol hwn yn parhau wrth i’r tîm dyfu.

Rhan o rôl y swydd:

Fel busnes bach, rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau a hoffem i chi fod yn rhan ohono bob cam o’r ffordd. Wrth gwrs, gwyddom y gellid fod gennych ragoriaeth mewn un agwedd dros un arall, ac mae hynny’n wych – dyna lle mae gwaith tîm yn dod i mewn! Dyma rai o’r rolau y bydd ar gael gennym:

  • Ateb ymholiadau o ymholiadau gwefan cyffredinol i gwestiynau arbenigol am ddylunio a datblygu gwefan,
  • Trefnu cyfarfodydd a rhedeg y cyfarfodydd hyn gyda chleientiaid posibl a chyfredol
  • Dylunio a datblygu gwefannau (gan ddefnyddio WordPress yn bennaf)
  • Defnyddio cyfryngau cymdeithasol i farchnata amrywiaeth o fusnesau
  • Creu a rheoli ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol gwych, i ni a’n cleientiaid
  • Drafftio deunyddiau marchnata a chwilio cyfleoedd PR
  • Marchnata’r ystod o wasanaethau sydd ar gael o gyfieithu, cynnal, ysgrifennu copïau, strategaethau cyfryngau cymdeithasol, rheoli enwau parth a mwy

Mae’n waith eithaf amrywiol, sy’n wych i rywun sy’n hoffi mynd i’r afael ac ystod o weithgareddau.

Hoffem i chi fod:

  • Yn uchelgeisiol i lwyddo a gwthio ffiniau
  • Yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol a sgiliau cyfathrebu da
  • Yn gallu gweithio fel rhan o dîm ac yn unigol pan fo’r angen
  • Yn gallu cwrdd â dyddiadau cau prosiect a gweithio dan bwysau
  • Yn cadw’n gyfredol â datblygiadau technoleg cyfrifiadurol, gan gynnwys llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a gwefannau
  • Yn addasadwy ac yn barod i ddysgu technolegau newydd
  • A dealltwriaeth o strategaeth farchnata
  • A rhywfaint o brofiad mewn dylunio a datblygu gwefannau (ond darperir hyfforddiant os nad oes)

Hyfforddiant:

Gwyddom na fydd pawb yn meddu ar bopeth yr ydym yn chwilio amdano, felly byddwn bob amser yn darparu hyfforddiant a goruchwyliaeth i’ch galluogi i dyfu i mewn i’r swydd. Byddwn yn annog a chefnogi ennill cymwysterau proffesiynol  ble bo’n briodol.

Fframwaith

Tran gweithio i Gwe Cambrian Web Cyf byddwch yn cwblhau Prentisiaeth Lefel 4 mewn Hysbysebu a Chyfathrebu Marchnata trwy Sgil Cymru, darparwr hyfforddiant yng Nghaerdydd.