Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.
Cwmni: Buzz Media
Rôl: Prentis Gweithredwr Hysbysebu a Chyfryngau Cymdeithasol
Lleoliad: Caerdydd
Am y sefydliad
Buzz Magazine yw cylchgrawn misol rhad ac am ddim blaenllaw De Cymru ac mae wedi bod ers 25 mlynedd. Mae Buzz yn cael ei ddosbarthu yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe, Y Cymoedd, Gwent a Gorllewin Morgannwg. Buzz yw’r ffynhonnell diffiniol i’r hyn sy’n digwydd ym myd celf, theatr, cerddoriaeth, clybiau, ffasiwn a chwaraeon.
Mae 25,000 o gopïau o Buzz yn cael eu dosbarthu bob mis i bob canolfan wybodaeth allweddol, gwestai, bariau, clybiau, bwytai, amgueddfeydd, theatrau, orielau, siopau recordiau a phrifysgolion.
buzzmag.co.uk yw wyneb ar-lein cylchgrawn Buzz ac mae’n delio â digwyddiadau a materion ar draws Cymru. Mae’n cynnwys popeth sydd yng nghylchgrawn Buzz yn ogystal â rhaglenni dogfen a ffilmiau byr Buzz TV, cynnwys gan ein tîm blogio, lluniau, digwyddiadur a mwy. Mae Buzz hefyd ar gael ar Google Play Newsstand.
Disgrifiad Swydd
Prentis Gweithredwr Hysbysebu a Chyfryngau Cymdeithasol
Eich prif gyfrifoldebau bydd i gynorthwyo’r cyhoeddwr a thîm Buzz i sicrhau noddwyr a hysbysebwyr ar gyfer Buzz magazine, gwefan Buzz a Buzz TV ac i weithio’n agos gyda’r tîm.
Dyletswyddau’n cynnwys:
Cylchgrawn Buzz
- Cynorthwyo gyda gwerthiant a marchnata’r cylchgrawn i gysylltiadau sy’n bodoli eisoes, a sicrhau cysylltiadau newydd.
- Cadw cofnod cywir ar gyfer cleientiaid a diweddaru
- Marchnata’r cylchgrawn i gleientiaid a chwsmeriaid newydd.
- Cynorthwyo gydag unrhyw ddigwyddiadau, lansiadau a digwyddiadau mae Buzz wedi cael gwahoddiad iddyn nhw
- Ysgrifennu datganiadau ar gyfer y wasg.
Cyfryngau Cymdeithasol & Gwefan
- Cynorthwyo’r golygydd gyda ddiweddaru gwefan Buzz
- Sicrhau bod rhannau o’r wefan yn cael eu diweddaru’n rheolaidd
- Gofalu am linciau noddedig
- Cynnal y digwyddiadur
- Cynorthwyo gydag ymgyrchoedd ar-lein a chyfryngau cymdeithasol
- Monitro cyfryngau cymdeithasol
- Dadansoddi data ag ystadebau
- Creu Cynnwys (FIDEO)
Buzz TV
- Gweithio’n agos gydag ystod eang o bobol
- Trefnu cyfweliadau a chyfarfodydd
- Paratoi a threfnu amserlenni a chytundebau
- Goruchwylio ciwiau, amseriadau a continiwiti yn ystod recordio
- Cynorthwyo gyda chyllidebu
- Cynorthwyo gyda pharatoadau tu ôl i’r camera cyn ffilmio
- Bod ar gael i fynd ar leoliad a rheoli cynyrchiadau ar gyfer y cyfarwyddwr
Sgiliau hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Hyblygrwydd
- Brwdfrydedd
- Bod yn benderfynol
- Dyfalbarhad
- Y gallu i weithio’n dda ac yn gyflym dan bwysau
- Sgiliau gweinyddol
- Sgiliau cyfrifiadurol
Dealltwriaeth o WordPress a’i swyddogaethau, Twitter, Facebook, YouTube/Vimeo.
Diddordeb mewn cylchgronau, creu cynnwys digidol a sianelau ar-lein. Profiad mewn cynhyrchu ffilm a fideo o fantais, yn ogsytal â diddordeb mewn diwylliant, celf, cerddoriaeth, bwyd a diod a materion lleol.
Fframwaith
Tra’n gweithio i Buzz byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 15 mis Lefel Uwch (4) mewn Hysbysebu a Cyfathrebu Marchnata.