Prentis Swyddog Cefnogi Tîm – Comisiynydd Genedlaethau’r Dyfodol Cymru

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Cwmni:                       Comisynydd Genedlaethau’r Dyfodol Cymru
Rôl Prentisiaeth:     Prentis Swyddog Cefnogi Tîm
Lleoliad:                    Caerdydd

Am y Sefydliad

Mae newid diwylliant y sector cyhoeddus, gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru a gwarchod buddiannau Cenedlaethau’r Dyfodol, i gyd yn dod o fewn cylch gwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Gwaith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a’i thîm yw helpu i wneud i hyn ddigwydd.

Disgrifiad Swydd

Gan adrodd i Reolwr y Swyddfa, bydd y Swyddog Cefnogi Tîm yn rhoi cefnogaeth gyffredinol, ddibynadwy ac effeithlon i Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, i alluogi pob swyddogaeth i redeg yn effeithiol ac effeithlon ar bob adeg.

Ai chi yw hon/hwn?

Fel y Prentis Cefnogi Tîm yn ein swyddfa byddwch yn rhywun ag ymagwedd hynaws a chynorthwyol fel pwynt cyswllt cyntaf y sefydliad ar y ffôn ac yn y swyddfa, a’r person y bydd cydweithwyr yn y swyddfa yn mynd ati/ato am gefnogaeth.

Byddwch yn mwynhau bod yn drefnus yn eich gwaith wrth drefnu cyfarfodydd, archebu mannau cyfarfod, hysbysu ymwelwyr, trefnu arlwyo, coladu a dosbarthu papurau, mynychu cyfarfodydd a chymryd nodiadau.

Byddwch yn medru cyfathrebu gydag aelodau o’r tîm ac aelodau o’r cyhoedd i safon uchel drwy gyfrwng y Gymraeg, ar y ffôn, wyneb yn wyneb, ac mewn negeseuon e-bost byr neu drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Byddwch yn deall pa mor bwysig yw cael cysylltiad gwych rhyngom ag eraill yn y Sector Cyhoeddus, a byddwch yn rhywun sy’n greadigol wrth natur, yn dda gyda thechnoleg ac yn hoffi rhagori wrth ymgysylltu ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Byddwch yn rhywun sy’n rhannu ein gwerthoedd mewn perthynas â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru a dysgu gyda ni wrth i ni weithredu yn ogystal â thrafod.

Rydym yn sefydliad sy’n hoffi meddwl yn wahanol, cwestiynu a rhoi cynnig ar ddulliau newydd o wneud pethau, gan annog creadigrwydd a syniadau newydd. Felly, rydym yn edrych am rywun sy’n mwynhau helpu eraill gyda’u gwaith, rhywun sy’n awyddus i wella’u perfformiad a’u gwybodaeth yn gyson, ac sy’n medru gweithio’n hyblyg mewn ymateb i anghenion pobl eraill.

Eich sgiliau, gwybodaeth a phrofiad:

Bydd gennych o leiaf 4 TGAU graddau A i C (dewis Saesneg a Mathemateg) neu gyfwerth.
Byddwch yn rhywun â sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da, sydd hefyd yn deall ac yn mwynhau cymryd rhan mewn cyfathrebu cyfryngau digidol.

Bydd gennych agwedd bositif tuag at gefnogi eraill, byddwch yn dda am siarad â phobl a chymryd rhan mewn gweithgareddau tîm.
Byddwch yn medru dangos dealltwriaeth o werthoedd ein swyddfa a’n datblygu cynaliadwy.

Byddwch yn medru dangos sgiliau TGCh a sgiliau trefnu da.
Byddwch naill ai eisoes yn medru siarad Cymraeg yn rhugl neu’n hapus i wella sgiliau’r iaith Gymraeg sydd gennych ar hyn o bryd gyda chymorth ac anogaeth, fel y gallwch gynnal sgyrsiau cychwynnol gyda phobl ar y ffôn, sgyrsiau  un i un, ac mewn negeseuon e-bost byr neu drwy ein sianeli cyfryngau cyhoeddus.

Fframwaith

Tra’n gweithio i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 15 mis Lefel Uwch (4) mewn Hysbysebu a Cyfathrebu Marchnata.

Mae’r cyfle yma yn rhoi 15 mis o brofiad cyflogaethhefyd yn rhoi cyfle i chi brofi byd Comisiynydd Cendlaethau’r Dyfodol Cymru wrth gyflawni cymhwyster Lefel 4. Nid yw wedi’i anelu at raddedigion.

Cyflog

£16,120 PA

Am fwy o wybodaeth ynglyn a’r cyflog prentisiaid cenedlaethol: www.gov.uk/national-minimum-wage-rates

Sut i ymgeisio

Cliciwch yma er mwyn ymgeisio.

Os oes unrhyw cwestiynau ynglyn a’r prentisiaeth yma: FAQs.

Dyddiad cau

1200 dydd Merched 7fed o Awst, 2019