CEISIADAU WEDI CAU
Cwmni: Boom Cymru
Rôl Prentisiaeth: : Prentis Ymchwilydd
Lleoliad: Caerdydd
Am y Sefydliad
Mae Grŵp Boom yn un o gwmnïau cynhyrchu mwyaf Cymru. Sefydlwyd ni yn 1994, ac mae’r cwmni bellach yn cynhyrchu dros 400 awr o gynnwys aml-genre yn flynyddol i S4C, BBC, ITV, C4, C5 a UKTV/Dave. Drwy ein hadrannau teledu a digidol, Boom Cymru, Boom, Boom Social a Boom Plant, mae gan y grŵp brofiad helaeth o gynhyrchu cynnwys ffeithiol, adloniant ffeithiol, adloniant, drama a phlant. Un o brif nodweddion ein cynyrchiadau yw’r cyfuniad o stori gref a gwerthoedd cynhyrchu uchel.
Mae grŵp Boom yn cyflogi tua 200 aelod o staff yng Nghymru, ac yn ychwanegol i adrannau Boom, Boom Cymru, Boom Social a Boom Plant, mae’r grŵp hefyd yn cynnwys cwmni adnoddau ac ôl-gynhyrchu blaenllaw, Gorilla, a chwmni effeithiau arbennig a graffeg – Bait.
Disgrifiad Swydd
Mae Boom Cymru yn chwilio am ymchwilydd i ymuno a’r tîm sy’n cynhyrchu rhaglenni “ffordd o fyw” (lifestyle) ar gyfer S4C. Os oes gyda chi ddiddordeb mewn cyfresi tai a chynllunio mewnol ,coginio, ffasiwn a theithio ac yn awyddus i weithio i gwmni teledu yna ewch amdani!
DYLETSWYDDAU
- Gallu gweithio yn annibynnol ac yn rhan o dîm
- Yn berson creadigol llawn syniadau
- Diddordeb mewn rhaglenni ffordd o fyw (lifestyle)
- Person brwydfrydig, gweithgar a chyfeillgar.
- Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg (dim angen bod yn rhugl)
- Mi fydd trwydded yrru (neu gyfwerth) llawn yn ddelfrydol
Fframwaith
Tra’n gweithio i Boom Cymru byddwch yn cwblhau Prentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.
Cyflog
Y cyflog ar gyfer y rôl hon yw £19,305 y flwyddyn.
Sut i Ymgeisio
Cliciwch yma i gwblhau y ffurflen gais.
Os oes ganddoch unrhyw gwestiynau am y prentisiaethau, edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin.
Dyddiad Cau
Canol dydd, Dydd Llun, 29ain o Dachwedd 2021.
Dyddiad Dechrau
Dydd Llun, 24ain o Ionawr 2022.