Dychwelodd ein prentisiaid lefel 3 2017/18 i Pinewood Studio Cymru ym mis Chwefror wrth iddynt gyrraedd hanner ffordd trwy eu cynllun hyfforddi. Mae’r pymtheg prentis – cyflogai Amplified Business Content, BBC Cymru Wales ac ITV Cymru Wales – wedi cymryd pythefnos allan o’r byd gwaith i gwblhau eu gwaith cymhwyster. Cafodd pob prentis gyfarfodydd gyda’u haseswyr diwydiant i edrych ar yr hyn maent wedi gyflawni yn chwe mis cyntaf y cynllun.
Mae’r blociau dysgu yn ffordd dda i’r prentisiaid fedru rhannu eu profiadau gwaith gyda’u gilydd. Gyda gwahanol fathau o swyddi rhyngddynt, gan gynnwys prentis newyddiadurwr, prentisiaid gwisgoedd, prentisiaid digidol a marchnata a phrentis grip, mae eu profiadau o ddydd i ddydd yn wahanol, ond maen nhw i gyd yn gwybod sut brofiad yw e i ddechrau gyrfa o fewn y diwydiannau creadigol.
Dwedodd Holly Garrett, prentis radio gyda BBC Cymru Wales:
Rwyf wedi cael chwe mis prysur yn gweithio ar raglenni fel The Wynne Evans Show a The Janice Long Show. Mae’n grêt ein bod ni’n cael profiad ymarferol yn y gweithle ond hefyd yn cael y siawns i ffocysu ar y gwaith cymhwyster tra bod ni yma.
Ychwanegodd Izzy Bryce, prentis cynorthwyydd tîm gyda ITV Cymru Wales:
Rwyf wedi cael mewnwelediad i’r newyddion a’r rhaglenni mae ITV Cymru Wales yn greu, ac mae cymorth ac arweiniad fy asesydd wedi bod yn werthfawr iawn hyd yn hyn.
Dwedodd Jennifer Stiling, prentis fideo a dylunio gyda Amplified Business Content:
Dwi wrth fy modd gyda fy swydd yna ABC ac rwyf yn gweithio o fewn tîm gwych, ond fel yr unig brentis yna, mae’n braf i fedru bod yng nghwmni prentisiaid eraill ar y blociau dysgu, sydd yn mynd trwy’r un proses.
Gwyliwch y fideo yma, a gynhyrchwyd gan Adam Neal, prentis adran gynhyrchu BBC Cymru Wales, lle mae’r prentisiaid yn siarad am eu profiadau hyd yn hyn.