Cwrs Movie Magic Scheduling & Budgeting ar gyfer Cynhyrchydd Llinell ScreenSkills mewn cysylltiad â Sgil Cymru

Mae’r cwrs yma — a gefnogir gan ScreenSkills gan ddefnyddio cronfeydd y Loteri Genedlaethol a ddyfarnwyd gan Sefydliad Ffilm Prydain (BFI) fel rhan o raglen Sgiliau Ffilm y Dyfodol — yn rhoi hyfforddiant llawn mewn Movie Magic Scheduling a Movie Magic Budgeting. Mae’n canolbwyntio ar swydd y Cynhyrchydd Llinell a sut mae’r pecynnau yma yn hanfodol i’w gwaith.

Cynnwys y cwrs

(gan ddefnyddio termynoleg MMS & MMB):

Amserlennu Movie Magic

  • Introduction to Scheduling
  • Script Marking
  • Breakdown Sheets: Element Manager and Category Manager
  • Inputting Information
  • Strip Board: Sorting, Daybreaks, Titles and Boneyard
  • Calendar Manager
  • Scheduling Procedures
  • Reporting (Day-out-of-days)
  • Exporting/Printing

Cyllidebu Movie Magic

  • Overview of EP Movie Magic Budgeting
  • Introduction to Budgeting
  • Setting-up your Budgeting format
  • Basic Controls and Navigation
  • Top Sheet, Account Level and Detail Level
  • Exercise in Globals, Groups and Fringes
  • Currencies
  • Budgeting Principles and Practices
  • Reporting/Printing

Tiwtor y cwrs

Dewi Griffiths

Ymunodd Dewi Griffiths â’r diwydiant ffilm yng nghanol yr 1980au ar ôl graddio o goleg Polytechnig Cymru (USW bellach). Dechreuodd fel golygydd ffilm, gan symud i’r Adran Gynhyrchu ar brosiectau drama arloesol yr 1980au i S4C, y BBC a HTV. Gweithiodd trwy rengoedd Rhedwr, Rheolwr Lleoliad, Cyfarwyddwr Cynorthwyol 3ydd, 2il a 1af, gan weithio ar ffilmiau nodwedd a drama deledu safon uchel. Digwyddodd y cynyrchiadau hyn ledled y DU, Ewrop, a’r Dwyrain Canol, Asia a Gogledd America. Bu’n rhedeg cyfresi drama cymhleth mawr ar gyfer Sky, Channel 4 ac ITV cyn cynhyrchu ei ffilmiau ei hun trwy ei gwmni Garland Stone Productions. Yna rhedodd Dewi yr MA mewn Cynhyrchu Ffilm ym Mhrifysgol Morgannwg. Yna, fe gafodd swydd gan bennaeth Ysgol Ffilm Prifysgol Southern California, a chyn bennaeth Sefydliad Ffilm America fel pennaeth Cynhyrchu ar eu campws lloeren, Sefydliad y Môr Coch ar gyfer Celfyddydau Sinematig yn yr Iorddonen, gan oruchwylio dros 500 o ffilmiau, llawer ohonynt yn brosiectau a enillodd wobrau yn rhyngwladol. Dychwelodd Dewi i USW yn 2016 i redeg yr MA mewn Cynhyrchu Ffilm. Mae’n parhau i ddatblygu prosiectau ffilm, ysgrifennu nofelau a gweithio yn niwydiant hyfforddi ffilm Prydain.

Dathyl Evans

Mae Dathyl Evans wedi gweithio yn y byd teledu ers pum mlynedd ar hugain. Mae ei chefndir mewn Cynhyrchu fel Cydlynydd, gan weithio ar gyfresi drama amrywiol ar gyfer y BBC a S4C lle mae ei chredydau yn cynnwys cyfresi rhwydwaith amser brig fel Casualty a Dr Who. Mae Dathyl wedi bod yn Rheolwr Cynhyrchu ers 2004, gan weithio’n bennaf ym maes Drama deledu ond hefyd ar draws ystod eang o genres eraill gan gynnwys Ffilm, Dogfennau Arsylwi arloesol, Rhaglenni dogfen traddodiadol a rhaglenni Adloniant Ysgafn amrywiol. Mae ei chredydau Rheolwr Cynhyrchu yn cynnwys – ‘One Born Every Minute’ y gyfres poblogaidd Channel 4; addasiad ffilm o ‘Under Milk Wood’ gyda Rhys Ifans a Charlotte Church; ‘Denmark’ gyda Ralph Spall wedi’i osod yn Nenmarc a Chymru a’r gyfres doucmentary ‘Deserts’ cyd-gynhyrchiad gyda National Geographic, France Télévisions a Green Bay o Gaerdydd, a ffilmiwyd yn rhai o’r anialwch caletaf ledled y byd. 

Pryd mae’r cwrs?

Mi fydd y cwrs yn rhedeg o’r 14eg- 18fed o Hydref, 2019

Ble fydd y cwrs yn cael ei gynnal?

Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal yng nghanolfan hyfforddi Sgil Cymru yn Pinewood Studio Cymru.

Faint bydd y cwrs yn gostio?

£200

Cyflwyno eich cais

Anfonwch eich CV a 250 o eiriau am pam rydych chi moen cymryd rhan yn y cwrs yma i help@sgilcymru.com


Cefnogir y prosiect yma gan ScreenSkills gan ddefnyddio cronfeydd y Loteri Genedlaethol a ddyfarnwyd gan Sefydliad Ffilm Prydain (BFI) fel rhan o raglen Sgiliau Ffilm y Dyfodol.