Swydd Ddisgrifiad – Prentis CRIW

Rôl Prentis: Prentis CRIW

Lleoliad: Lleoliadau gyda chwmnïau a chynyrchiadau amrywiol yn ardal gogledd Cymru.

**Mae’n angenrheidiol fod angen i brentis gael trwydded yrru a thrafnidiaeth bersonol.**

Mae Cynllun Prentisiaeth CRIW yn ffordd ardderchog o ddod i mewn i’r diwydiant, ac i gael blas ar sut mae’r sector wir yn gweithio, gan y bydd y prentis yn symud o gynhyrchiad i gynhyrchiad, yn ddibynnol ar y sgediwl saethu.

Mae’r rôl yn cynnig cyfleon i ennill profiad hanfodol o’r broses o gynhyrchu cynnwys ac yn cynnig cyfleon rhwydweithio eang, rhywbeth gwerthfawr iawn ym myd y Cyfryngau.

Mae criw cynhyrchiad ffilm neu deledu yn cynnwys amrywiaeth o wahanol adrannau, a gall gael ei staffio yn gyfan gwbl gan weithwyr llawrydd sy’n symud o gynhyrchiad i gynhyrchiad. Fel Prentis CRIW, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr llawrydd o fewn pa bynnag adran, yn enwedig:

  • Rhedwr o fewn yr Adran Gynhyrchu
  • Adran Gamera
  • Ol-Gynhyrchu

Efallai bydd cyfleoedd mewn adrannau eraill hefyd yn dibynnu ar ofynion cynhyrchu. Y naill ffordd neu’r llall, byddwch hefyd yn gwneud te/coffi, yn siarad ar y ffôn/radio ac yn debygol o dreulio’r rhan fwyaf o’r dydd ar eich traed. Efallai y cewch eich hun yn gweithio am nifer o wythnosau ar un cynhyrchiad, ac yna ychydig ddyddiau yn unig ar un arall – yn union fel gweithiwr llawrydd.

Gall y rôl gynnwys gweithio oriau hir ac anghymdeithasol. Nid oes angen profiad blaenorol o weithio ym maes cynhyrchu, ond yn bendant mae angen i chi fod yn llawn cymhelliant, yn frwdfrydig ac yn barod i weithio’n galed. Mae STAMINA MEDDYLIOL A CHORFFOROL ynghyd a HUNANDDISGYBLAETH yn angenrheidiol.

Gofynion

  • Wedi’ch lleoli yng ngogledd Cymru
  • Bod ar gael a gallu gweithio ar gynyrchiadau wedi’u lleoli yng ngolgedd Cymru
  • Angerdd i weithio mewn swyddi y tu ol i’r gamera ar gynyrchiadau ffilm a theledu
  • Gallu ymrwymo i 12 mis
  • Mynediad i’r rhyngrwyd ar gyfer dysgu oddi ar y safle pan fo angen
  • Gyrrwr hyderus gyda trwydded yrru glan a thrafnidiaeth personol
  • Nid oes angen profiad blaenorol yn y diwydiant arnoch chi.
  • Mae nifer o’r swyddi yn gofyn am brentis sy’n rhygl yn y Gymraeg
  • Yr awydd i ddysgu Gymraeg yn fantais

Cyflog £12,500 PA. Wrth weithio fel Prentis CRIW, byddwch yn cwblhau Prentisiaeth Lefel 3, 12 mis, yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol.

Pa fath o berson sydd angen i mi fod? •  Cyfathrebwr da •  Dadansoddol •  Hunan-gychwynwr •  Penderfynol •  Trefnus •  Diplomataidd •  Un da am gymryd cyfarwyddyd Sgiliau Angenrheidiol:

  • Sgiliau TG cryf, gan gynnwys pecynnau Microsoft, fel Word ac Excel;
  •  Y gallu i dderbyn cyfarwyddyd ac i weithio fel rhan o dîm;
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol dda;
  • Menter ac ymwybyddiaeth;
  • Y gallu i ymateb ac i weithio’n gyflym, dan bwysau;
  • Mwynhau gweithio mewn awyrgylch prysur ac o dan bwysau;
  • Trwydded yrru lân;
  • Y gallu i gyfathrebu yn rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer rhai o’r swyddi o dan y brentisiaeth; ond nid yw’r gallu i siarad Cymraeg yn angenrheidiol ar gyfer pob ymgeisydd.

Cymwyseddau Cyffredinol  

  • Gwaith tîm – gweithio’n effeithiol iawn fel rhan o dîm.
  • Rheoli cydberthnasau – gallu creu a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol gydag amrywiaeth o bobl.
  • Cyfathrebu – y gallu i gyfleu neges yn glir drwy fabwysiadu amrywiaeth o arddulliau, dulliau a thechnegau sy’n briodol i’r gynulleidfa ac i natur y wybodaeth.
  • Dylanwadu a darbwyllo – y gallu i gyflwyno dadleuon cadarn ac wedi’u rhesymu’n dda i ddarbwyllo pobl eraill. Gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddarbwyllo pobl mewn ffordd sy’n arwain at gytundeb neu newid ymddygiad.
  • Cynllunio a threfnu – gallu bod yn flaengar er mwyn sefydlu dull gweithredu effeithiol a phriodol i chi’ch hun ac eraill. Blaenoriaethu a chynllunio gweithgareddau gan ystyried yr holl faterion a ffactorau perthnasol megis terfynau amser, gofynion staffio ac adnoddau.
  • Dyfalbarhad – gallu rheoli effeithiolrwydd personol drwy reoli emosiynau yn wyneb pwysau, rhwystrau neu wrth ddelio â sefyllfaoedd cythruddol. Gallu dangos ymagwedd at waith a nodweddir gan ymrwymiad, cymhelliant a brwdfrydedd.
  • Ysgogiad – dangos ymrwymiad, cymhelliant ac egni.
  • Hunanddatblygiad – dangos cryfderau personol ac anghenion datblygu, ac yn ceisio gwella perfformiad yn barhaus drwy feithrin sgiliau a dysgu ymddygiad newydd.
  • Hyblygrwydd – addasu a gweithio’n effeithiol gydag unigolion, grwpiau neu mewn sefyllfaoedd amrywiol. Gallu deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol a gwrthwynebol ar fater, addasu dull o weithredu wrth i ofynion sefyllfa newid, a derbyn newidiadau yn eich sefydliad eich hun neu ofynion eich swydd yn hawdd.

Mae Sgil Cymru wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, a chefndir economaidd-gymdeithasol.

Dyddiadau pwysig a sut i ymgeisio

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 27/04/23 @ Canol dydd.

Gweithdai Recriwtio: 05/05/23

Dyddiad dechrau y Cynllun Prentisiaeth: 22/05/23

YMGEISIWCH YMA

Gallwch ddarllen cwestiynau cyffredin YMA

Cysylltwch gyda ni YMA os oes unrhyw cwestiynau gyda chi.