Heddiw, rydym yn falch i ryddhau pennod newydd o’n podlediad ‘POD Y PRENTIS’ gyda’n gwestai – Connor Morgans!
Mae’r bennod yma yn cael ei gyflwyno gan Lisa Jarman ac yn bennod iaith Saesneg. Mae Connor yn gweithio’n llawrydd yn y byd radio gan rannu ei amser rhwng Llundain a Chaerdydd. Mae’n gweithio gyda BBC Radio 1Xtra, Kiss FM a BBC Radio Wales yn ogystal a nifer o gwmniau eraill. Roedd e’n bleser dal lan gyda Connor yn y bennod yma!
Gallwch chi wrando ar y podlediad isod, neu ar ein tudalen YouTube yma.