Pod Y Prentis – cyhoeddi ein gwestai nesaf!

Cofiwch fod Pod y Prentis ar gael nawr ar Spotify a YouTube!

Gallwch wrando ar bennod un gyda Eva Runciman (Saesneg), yr ail bennod gyda Gruff Evans (Cymraeg) neu’r pennod mwyaf ddiweddar gyda Ellie Williams (Saesneg) ar Spotify yma.

Mae pennodau Cymraeg o’r podlediad hefyd ar gael gyda is-deitlau Saesneg ar ein sianel YouTube i’r rhai sydd ddim yn siarad Cymraeg ond sy’n awyddus i wrando!

Mae’r bennod nesaf yn Saesneg ac yn cael ei ryddhau ar yr 2il o Hydref (sef D.Llun cyntaf y mis) a’n gwestai bydd – Connor Morgans! Mae Connor yn gweithio’n llawrydd yn y byd radio! Mae e wedi gweithio’n rheolaidd gyda BBC Radio 1xtra, Kiss FM yn ogystal a BBC Radio Wales, ei leoliad tra’n hyfforddi gyda Sgil Cymru.

Cofiwch wrando!