Mae’r ceisiadau nawr ar agor ar gyfer prentisiaethau cynhyrchu ‘fast track’ 2024 y BBC ar draws Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae’r rhestr lawn o swyddi yma.
Mae yna 4 cyfle ar gael yng Nghymru:
- Prentisiaeth Cynhyrchu – Lefel 3 – Caerdydd (Iaith Gymraeg)
- Prentisiaeth Cynhyrchu – Lefel 3 – Caerdydd (Iaith Saesneg)
- Prentisiaeth Cydlynydd Cynhyrchu – Lefel 4 – Caerdydd/Bangor (Iaith Gymraeg)
- Prentisiaeth Cydlynydd Cynhyrchu – Lefel 4 – Caerdydd/Bangor (Iaith Saesneg)
Mae ceisiadau yn cau ar Ionawr 8fed!
Bydd mwy o wybodaeth ar gael ar wefan BBC CAREERS am y prentisiaethau a’r cyfleoedd sydd ar gael yn yr wythnosau nesaf.
Bydd gwybodaeth hefyd ar gael ar ei gyfrif Instagram: @BBCGetIn