Heddiw, rydym yn falch i ryddhau pennod newydd o’n podlediad ‘POD Y PRENTIS’ gyda’n gwestai – Kaitlin Brock!
Mae’r bennod yma yn cael ei gyflwyno gan Lisa Jarman. Pennod iaith Saesneg yr wythnos hon! Mae Lisa yn siarad gyda Kaitlin Brock – ein cyn-brentis CRIW cyntaf ar y podlediad y gyfres yma! Fe wnaeth Kaitlin orffen ei phrentisiaeth yn yr haf. Yn y bennod yma mae’n trafod y cwmnïau caeth hi’r siawns i weithio gyda nhw yn ystod ei phrentisiaeth, y profiad o weithio mewn adrannau gwahanol a phenderfynu taw golygu oedd y swydd iddi hi a hefyd sut i gadw i fynd pan mae’r gwaith yn dod i ben…yn ei hachos hi, agor siop Etsy!
Gallwch chi wrando ar y podlediad isod, neu ar ein tudalen YouTube yma.