Roedd Arwen yn brentis ACDM gyda Sgil Cymru blwyddyn ddiwethaf – ac ar ôl gorffen gyda Golley Slater, daeth Arwen i weithio gyda Sgil Cymru am gyfnod byr yn helpu gyda thasgau gweinyddol yn ein swyddfa. Ond, dim ond amser byr iawn oedd hi gyda ni achos cafodd Arwen swydd newydd yn sydyn iawn fel Swyddog Gweinyddu a Chyfathrebu yn swyddfa Alun Cairns – AS Bro Morgannwg.
Mae Arwen yn cael amser ffantastig yn ei swydd newydd ac yn defnyddio nifer o’r sgiliau a ddysgodd hi yn ystod ei phrentisiaeth gyda Golley Slater. Gwelwch luniau o rhai o’i phrofiadau diweddar isod.
Llongyfarchiadau mawr Arwen!