Heddiw, rydym yn falch i ryddhau pennod newydd o’n podlediad ‘POD Y PRENTIS’ gyda’n gwestai – Jacob Page!
Pennod iaith Saesneg mis yma, gyda Lisa Jarman yn cyflwyno. Roedd Jacob yn brentis CRIW gyda ni o 2021 i 2022. Yn y bennod yma, mae’n sôn am ei brofiad yn ystod y brentisiaeth a sut mae hynny wedi ei arwain at fod yn 2il AD ar Casualty erbyn hyn. Mae CRIW yn recriwtio ar hyn o bryd felly dyma gyfle arbennig i glywed am brofiad rywun sydd wedi gwneud y brentisiaeth yn barod!
Gallwch chi wrando ar y podlediad ar Spotify isod, neu ar ein tudalen YouTube yma.
Oes diddordeb gyda chi i fod yn rhan o brentisiaeth CRIW? Darllenwch mwy yma.