Hanna Lewis-Jones

Hyfforddai cyntaf ar gyfer rhaglen Camu Fyny 2017 oedd Hanna Lewis-Jones.

Cyn ennill ei lle ar Camu Fyny, roedd Hanna wedi bod yn gweithio’n galed fel Hyfforddai Colur a Gwallt ar nifer o gynhyrchiadau. Mae ei CV yn cynnwys y sioe theatr ‘Les Miserables’ yng Nghanolfan y Mileniwm Cymru, y ffilm ddrama ‘Their Finest’ gyda Sam Claflin a Gemma Arteron, a’r ffilm arswyd ‘Watcher in the Woods’.

Fel rhan o’i rhaglen Camu Fyny roedd Hanna yn gweithio ar y gyfres ddrama Keeping Faith/Un Bore Mercher i S4C a’r BBC. Roedd hi’n gweithio dan adain hynod o brofiadol y Cynllunydd Colur a gwallt Claire Prichard-Jones, ac o fewn y dyddiau cyntaf roedd hi’n datblygu nifer o sgiliau newydd gan gynnwys sut i dorri lawr sgriptiau a chymeriadau yn ogystal ag ennill mwy o hyder yn ei rol newydd.

Dwedodd Claire:

Mae Camu Fyny wedi bod yn help mawr i Keeping Faith/Un Bore Mercher, gan ein bod wedi medru parhau gyda hyfforddiant Hanna. Mae Hanna yn dalentog iawn, ac mae’r ardal yma mor anodd i gael ffordd i mewn iddo. Heb help Sgil Cymru fyddwn ni ddim wedi medru bod yn gynorthwy i Hanna.

Dwedodd Hanna:

Mae pob dydd yn wahanol – ac mae hyn yn cadw popeth yn ddiddorol. Weithiau dwi angen bod ar set yn edrych ar ol y prif gast ac weithiau yr artisiaid cynorthwyol; ar ddyddiau eraill dwi angen paratoi a phlanio y dyddiau sydd i ddod, gan wneud pethau fel setio wigiau, llenwi mowldiau prosthetig, edrych ar ol stoc ac yn y blaen.

Mae ‘camu fyny’ o hyfforddai i swyddi cynorthwyol wedi bod yn hanfodol imi. Dwi’n hynod o ddiolchgar mod i nawr yn medru cael y profiad o weithio ar 6 mis o ddrama BBC/S4C o’r dechrau i’r diwedd, gan ddatblygu fy sgiliau a bod yn fwy cymwys yn fy rol newydd – dwi’n edrych ymlaen at y cyfleoedd nesa.