Beth yw dy enw ac un o le wyt ti yn wreiddiol?
Helo, Neve ydw i a dwi’n dod o Gaerdydd.
Pam ddewisoch chi i ymgeisio am brentisiaeth CRIW?
Ar ol gwblhau gradd mewn Cyfryngau a Chyfathrebu, sylwais fy mod i wir eisiau gyrfa yn y diwydiant ffilm a theledu. Roeddwn i eisiau dod yn rhan o’r broses gynhyrchu. Ond, doeddwn i ddim yn siwr lle i ddechrau. Ar ol gwneud ychydig o ymchwil, wnes i ddod o hyd i brentisiaeth CRIW Sgil Cymru. Fe wnes i ymgeisio ac roeddwn i’n digon lwcus i gael lle ar y cwrs.
Beth yw’r nod derfynol/swydd delfrydol pan mae’r brentisiaeth yn dod i ben a beth hoffech chi gael allan o’r brentisiaeth?
Does dim llawer o brofiad gen i o fewn cynhyrchiad, felly rydw i am ddysgu am y diwydiant ffilm a theledu yn drylwyr. Rydw i am ddod yn rhan o’r brofiad tu ol i’r llen.
Dydw i ddim yn siwr ar hyn o bryd beth byddai’r swydd delfrydol achos bod dim digon o brofiad gen i ond mae diddordeb mawr gyda fi mewn cynhyrchu, felly efallai bod hynny’n bosibilrwydd yn y dyfodol.