BLE MAEN NHW NAWR? – Eugenia Taylor

Edrychiad nôl ar ein prentisiaid o’r gorffennol a chyfle i weld beth maent yn gwneud erbyn hyn!

Mae Eugenia erbyn hyn yn gweithio fel Cynhyrchydd Cynorthwyol i ITV Cymru Wales.

 

Ble oedd eich lleoliad cyntaf gyda Sgil Cymru?

Roeddwn i gyda ITV Cymru Wales a gwnes i brentisiaeth cyfryngau Creadigol a Digidol.

 

Pa bryd y dechreuodd pethau ddisgyn i’w lle? Eich bod chi’n gwybod eich bod chi yn y lle iawn?

Sylweddolais fy mod yn y lle iawn pan oedd mynd i’r gwaith bob dydd yn hwyl ond yn her hefyd. Roedd pawb gan gynnwys fy rheolwr, Nadine a Sue o Sgil Cymru mor gefnogol ac yn awyddus i fy helpu bob cam o’r ffordd. Sylweddolais yn fuan fod gennyf gariad at yr adran raglenni yn ogystal â newyddiaduraeth a phan welodd fy rheolwr yr angerdd hwn, caniataodd i mi aros yn yr adran am ran helaeth o’m prentisiaeth. Gadawodd yr holl gynhyrchwyr i mi eu cysgodi, mynd allan ar leoliad gyda nhw a fy annog i ddysgu cymaint â phosibl.

 

Beth yw’r rhwystr mwyaf rydych chi’n meddwl eich bod chi wedi’i oresgyn naill ai yn ystod eich prentisiaeth neu yn dilyn ymlaen ohoni?

Ar ôl fy mhrentisiaeth, roeddwn yn ddigon ffodus i gael swydd fel ymchwilydd/cynorthwyydd rhaglen yn gweithio ar raglenni rhanbarthol a rhwydwaith yn ITV Cymru. Ond mae’n debyg mai fy rhwystr mwyaf oedd gwneud fy hyfforddiant newyddiaduraeth yn ITV, ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Fe wnes i hynny yn ystod y pandemig ac felly roedd llawer o ddysgu adref ac ar-lein. Rwy’n ddysgwr eithaf ymarferol felly roedd methu â mynd i’r swyddfa yn anodd iawn ac roedd y flwyddyn hyfforddi ei hun yn gam mawr ymlaen i mi. Roedd yn rhaid i mi wneud arholiad NCTJ yn ogystal â dysgu nifer o wahanol sgiliau newyddiadurwr cynhyrchu er mwyn gorffen yr hyfforddiant. Ond rwy’n meddwl bod fy mhrentisiaeth wedi fy mharatoi ar gyfer yr her oherwydd roeddwn bob amser yn dysgu rhywbeth newydd felly rhoddodd yr hyder i mi wybod fy mod yn gallu neud y swydd. Ac wrth gwrs, roedd cefnogaeth pawb yn ITV Cymru yn anhygoel felly fe wnaeth fy sbarduno i wneud y gorau o’r sefyllfa.

 

Beth yw’r cyngor gorau a gawsoch fel prentis?

Y cyngor gorau a gefais oedd gan Nadine a Sue sef gwneud y mwyaf o’r flwyddyn. Cymerais y cyngor hwnnw o ddifri, a drïes i gydio ym mhob cyfle a gefais i ddysgu rhywbeth newydd. Fe wnes i ymdrech hefyd i wneud cysylltiadau. Felly, os oedd rhywun yn cymryd yr amser i ddangos rhywbeth i mi, byddwn yn gwneud yn siŵr fy mod yn barchus ac yn garedig ac felly os oeddwn erioed angen cymorth neu eisiau gofyn cwestiwn yn y dyfodol, roeddwn yn teimlo y gallwn fynd at y person hwnnw eto am eu harbenigedd.

Rwy’n meddwl heb arweiniad pawb yn Sgil Cymru byddwn i wedi bod ar goll yn ystod fy mhrentisiaeth.

Ond fe wnaethon nhw hefyd ein hatgoffa ni pa mor bwysig oedd hi i gadw i fyny â gwaith ysgrifenedig a thasgau eich prentisiaeth. Felly roeddwn bob amser yn gwneud ymdrech i’w chwblhau cyn gynted â phosibl ag o’r safon orau. Gadawodd hynny fwy o amser i mi wneud y swydd yn ITV ac roeddwn yn gallu canolbwyntio ar ddysgu sgiliau newydd oherwydd doeddwn i ddim yn poeni am fy ngwaith arall.

 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n dechrau fel prentis?

Peidiwch â bod ofn rhoi eich hun allan yna ag i wthio eich hun i brofiadau newydd. Os oes gennych chi awr ychwanegol yn y dydd, allwch chi ddefnyddio’r awr honno i gynnig syniad newydd, neu helpu rhywun sydd â llwyth o waith i gyflawni? Gall y flwyddyn hedfan heibio, ond mae pawb eisiau eich helpu i ddysgu, felly peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau a dangos pa mor angerddol ydych chi am y swydd.