CAMU FYNY

Mae ceisiadau ar agor ar gyfer cynllun hyfforddiant CAMU FYNY!

Menter hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol deledu yng Nghymru yw Camu Fyny.

Ydych chi’n gweithio ar teledu neu efo’r sgiliau angenrheidiol i wneud hynny? Ydych chi’n edrych i ‘Gamu Fyny’ yn eich gyrfa?

Mae CAMU FYNY yn gyfle prin i weithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant i symud ymlaen yn eu gyrfa, a hefyd ar gyfer y rhai sydd yn arbenigwyr cymwysedig sydd eisiau gweithio ym myd teledu. Bydd y cynllun hyfforddiant yn cael ei deilwra i’r unigolyn yn ôl eu hanghenion, a bydd pob cyfranogwr yn ymgymryd â lleoliad neu gwrs fydd yn para ddim mwy na 10 wythnos neu yn derbyn lwfans hyfforddi ar gyfer y cyfnod cyfan.

I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol 250 gair ar pam yr hoffech gymryd rhan i help@sgilcymru.com

I dderbyn y newyddion diweddaraf o ran ein rhaglenni Camu Fyny yn y dyfodol arwyddwch lan i dderbyn ein cylchlythyr diwydiant.

Mae’r rhaglen yma wedi’i gefnogi gan levy Teledu o Safon Uchel ScreenSkills a Llywodraeth Cymru.