Dim ond pythefnos ar ôl cwblhau cwrs newydd Arolygydd Sgript Sgil Cymru, mae’r hyfforddai Catriona Napier wedi cael cynnig gwaith ar raglen ddrama teledu newydd ‘Will’, fel Arolygydd Sgript Cynorthwyol. Bydd Catriona, sydd yn byw yn yr Alban, yn ymuno gyda’r cynhyrchiad yn ne Cymru am bythefnos. Mae Sgil Cymru yn dymuno pob lwc iddi yn ei swydd newydd.
Mae staff Sgil Cymru yn aml yn cyfarfod Rheolwyr Cynhyrchu ac eraill sydd yn chwilio am griw a hyfforddeion llawrydd, ar gyfer gwaith cynhyrchu yn ne Cymru ac ymhellach. Mae adeiladu rhwydwaith o gyn-hyfforddeion yn rhan bwysig iawn o waith Sgil Cymru.
Mae’r cwrs newydd i rai sydd yn gobeithio hyfforddi o fewn Rheoli Lleoliad, wedi’i gefnogi gan Gronfa Ffilm Creative Skillset, yn cynnwys elfen profiad gwaith lle fydd rhai hyfforddeion yn cael cyfle i gael profiad gwaith gyda Location Solutions, ar ôl cwblhau’r cwrs. Gyda 2017 yn addo bod yn un o flynyddoedd mwyaf prysur ar gyfer cynhyrchiadau Ffilm a Drama Teledu yng Nghymru, mae Sgil Cymru yn gobeithio cynal nifer o gyrsiau byrion ar gyfer ystod o raddau cynhyrchu.
Gallwch ymuno gyda’n cylchlythr i weld pryd bydd y cyrsiau newydd yn cael eu cyhoeddi, neu cysylltwch gyda Sgil Cymru yn uniongyrchol i drafod eich anghenion hyfforddiant.
Leave a Reply