Cyfweld â phrentis – Zahra Errami

Er mwyn dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2020 rydym wedi cyfweld â 5 o’n cyn prentisiaid sydd wedi llwyddo yn eu gyrfaoedd yn dilyn eu prentisiaeth. Ein pedwerydd gwestai yn y gyfres yw Zahra Errami.

Enw:                                         Zahra Errami
Oedran:                                   26
O:                                              Ynys Môn
Cyflogwr Prentis:                  ITV Cymru Wales
Swydd Teitl Prentis:             Prentis Creadigol a Digidol

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn y brentisiaeth?

Rheolwr llawr i siop ddillad stryd fawr boblogaidd.

Pam oeddech chi moen wneud prentisiaeth?

Dwi ddim y person mwyaf academaidd, a wnes i byth ffeindio rhywbeth oedd o wir ddiddordeb i fi astudio yn y Brifysgol, felly roedd prentisiaeth ble allwn i ddysgu tra’n gweithio mewn diwydiant creadigol, yn swnio’n berffaith. Roeddwn i ‘di bod yn gweithio fel Colurwraig am nifer o flynyddoedd erbyn hyn, ac wedi joio gweithio ar gyfer teledu a ffilm, felly roedd y diddordeb yn y diwydiant wastad wedi bod yno.

Beth oedd cyfrifoldebau’r swydd brentis?

Fues i yn lwcus iawn i gael profi amryw o swyddi gwahanol, o ffilmio a bod yn y galeri i ysgrifennu darnau newyddiadurol gwreiddiol i wefan ITV Cymru. Wnes i ddisgyn mewn cariad gyda’r ochr newyddiadurol o’r swydd yn yr adran ddigidol. Ges i siawns i gael  rheolaeth greadigol o’r Instagram, ac aeth hwnnw â fi i uchelfannau (yn llythrennol!)  hollol boncyrs, fel ar do Stadiwm y Principality, rhywle faswn i erioed wedi dychmygu gallwn i fynd.

Ar ba raglenni/prosiectau wnaethoch chi weithio?

Dwi ‘di bod yn rhan o gymaint yn ystod fy mhrentisiaeth! Ges i siawns i fod yn ymchwilydd i gyfres Ein Byd a Y Byd ar Bedwar o fewn yr adran Materion Cyfoes Cymraeg. Hefyd wnes i gael y cyfle i greu cynnwys digidol i ITV Cymru ac i Hansh S4C. Mae creu cynnwys digidol i ITV Cymru yn ystod gŵyl Balchder/Pride Cymru, yn un o’r prosiectau dwi’n fwyaf balch ohoni.

Wnaethoch chi wynebu unrhyw anawsterau tra’n gwneud y brentisiaeth?

Na, dim rili. Roedd yn dipyn o her gorfod ail-wneud fy sgiliau allweddol, ond gyda chefnogaeth y staff yn Sgil Cymru, yn ogystal â chydweithwyr, wnes i allu gorffen yr unedau a’u cael allan o’r ffordd, i mi gael ffocysu ar fy ngwaith. Fel arall, mi oedd e’n bleser o’r dechrau i’r diwedd.

Beth ddigwyddodd wedi i chi gwblhau eich prentisiaeth?

Roeddwn i’n lwcus! Daeth swydd Newyddiadurwr o Dan Hyfforddiant i Hansh S4C i fyny, oedd yn siwtio fi i’r dim. Wnes i gais ac o fewn ychydig wythnosau, ges i gyfweliad. Pythefnos wedyn, gyda mis ar ôl o fy mhrentisiaeth, ges i’r newyddion bod fi wedi cael y swydd. Felly es i’n syth mewn i’n rôl newydd pan ddaeth y brentisiaeth i ben.

Ydych chi wedi newid/tyfu o ganlyniad i’r brentisiaeth?

Dwi wedi tyfu gymaint o ran hyder yn fy hunan ac yn fy sgiliau. Dwi’n gweld gwellhad yn fy Nghymraeg, llafar ac ysgrifenedig. Mae hyn lawr i’r faith i mi gwblhau gwaith yn Gymraeg yn Sgil Cymru a gweithio o fewn yr adran rhaglenni Cymraeg yn ITV Cymru. Fyswn i’n dweud bod fy agwedd tuag at waith wedi newid. Ar ôl gweithio am flynyddoedd mewn siopau dillad, roeddwn i’n teimlo’n ddigymell, gyda diffyg ffocws yn fy ngyrfa. Nawr dwi’n deffro bob bore yn edrych mlaen i fynd i ‘ngwaith ac yn teimlo yn fwy positif am fy ngyrfa.

Beth yw’r cam nesaf yn eich gyrfa?

Dwi’n gobeithio gwneud y mwyaf allan o’n swydd o dan hyfforddiant er mwyn sicrhau swydd fel Newyddiadurwr Aml-gyfryngol, rôl eithaf newydd i ITV sydd â mwy o ffocws ar elfennau digidol o’i gymharu â newyddiadurwr cyffredinol. Byswn i wrth fy modd yn cynhyrchu rhaglenni dogfen ddigidol i un o’r darlledwyr mawr yn y dyfodol.