Cyrsiau Movie Magic Amserlennu ar gyfer HETV

Rhaglen 2023 o gyrsiau byr HETV Movie Magic a gynhelir gan Sgil Cymru, mewn cydweithrediad â Grand Scheme Media ac Addie Orfila Training.

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer cyrsiau ar-lein mewn Amserlennu a Chyllidebu Movie Magic, sef meddalwedd safonol y diwydiant ar gyfer y diwydiant ffilm. Mae’r cyrsiau hyn am ddim, diolch i gefnogaeth Cronfa Sgiliau Teledu Pen Uchel ScreenSkills, sy’n cynnwys cyfraniadau gan gynyrchiadau teledu o’r radd flaenaf yn y DU.

Bydd hyfforddiant ar-lein yn cael ei ddarparu yng Nghymru dros 4 mis, i alluogi gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes teledu pen uchel i gael gwell dealltwriaeth o’r feddalwedd hanfodol a ddefnyddir ar gyfer amserlennu a chyllidebu ar gynyrchiadau HETV.

Mwy o wybodaeth yma.