Siôn Corn yn dod a’r tystysgrifau yn fuan i’r pedwerydd ‘Dathliad’ gan Sgil Cymru, y darparwr hyfforddiant i’r cyfryngau yng Nghymru.
Mae’r ‘Dathliad’ yn siawns i gydnabod llwyddiant hyfforddiant Sgil Cymru wrth roi siawns i weithwyr proffesiynol y diwydiant i rwydweithio.
Noddwyd y noson gan ‘Down the Caravan’, Tim Diwydiannau CreadigolLlyowdraeth Cymru a Creative Risk Solutions, gyda’r gwesteion yn cynnwys cyn-fynychwyr cyrsiau blaenorol Sgil Cymru, prentisiaid a gweithwyr professiynol y diwydiant sy’n gweithio o fewn Cymru ag ar draws y DU.
Mae Sgil Cymru yn dathlu llwyddiant 23 prentis creadigol yn cwblhau eu fframweithiau gyda’r mwyafrif ohonynt yn parhau i weithio o fewn y diwydiannau creadigol i gyflogwyr fel BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, Spindogs, Golley Slater a Real SFX, neu fel gweithwyr llawrydd.
Un o uchafbwyntiau y noson oedd gwobr a roddwyd gan Creative Risk Solutions sydd yn cydnabod cyflawniadau cyn-brentis. Mae’r rhai sy’n derbyn y wobr yn cael eu hystyried yn ysbrydoliaeth i brentisiaid y dyfodol. Cyflwynwyd y wobr eleni i Barry Roberts.
Gweithiodd Barry fel Prentis yn yr Adran Gelf I BBC Cymru Wales. Fel prentis, bu Barry yn gweithio ar sawl cynhyrchiad fel Dr Who, Casualty a Pobol Y Cwm. Mae Barry yn hollol fyddar sy’n olygu fod addasiadau wedi’u gwneud er mwyn galuogi Barry i weithio’n effeithiol ac yn hyderus yn y stiwdio. Roedd yna lawer o heriau ar hyd y ffordd ond doedd Barry ddim am gael ei guro. Ers gorffen ei brentisiaeth, mae Barry wedi dysgu gyrru ac mae bellach yn gweithio fel Addurnwr Set Iau o fewn Adran Gelf y cynhyrchiad newydd ‘Industry’ i HBO sy’n cael ei saethu gan Bad Wolf. Uchelgais Barry yw dod yn Gyfarwyddwr Celf cynhyrchiad mawr iawn ac nid oes amheuaeth gennym ni y bydd yn cyflawni hyn.
Mae Sgil Cymru wedi sefydlu ei hun fel yr hyfforddwr mwyaf blaenllaw i’r cyfryngau gyda’i gwahanol raglenni. Maent yn amrywio o brentisiaeth i newydd ddyfodiaid i gyrsiau ar gyfer Arolygwyr Sgript, Cynhyrchwyr a Rheolwyr Cynhyrchu o fewn y diwydiant ffilm a theledu. Rydym yn edrych ymlaen at flywddyn brysur arall yn 2020.
Dwedodd Sue Jeffries, Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru:
“Eleni mae ganddon ni grwp amrywiol iawn yn dod i mewn I’r diwydiant , ac rydym yn hynod o falch fod pob un ohonynt wedi llwyddo gyda’u fframwaith prentisiaeth lefel 3. Dyma ddyfodol ein diwydiant, ac mae ganddynt flynyddoedd o lwyddiant creadigol o’u blaen dwi’n siwr. . Rydym ni yn Sgil Cymru nawr yn symyd ein ffocws at yr 20 prentis newydd fydd yn graddio yn 2021.”
Dywedodd Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Yr Arglwydd Elis-Thomas:
“ Roeddwnyn falch iawn ogyflwyno ytystysgrifau i’r prentisiaid a’u llongyfarch areu llwyddiant .Mae’r diwydiannau creadigol yn sectorcyffrous iawn yng Nghymru –sy’n mynd onerth i nerth . Rydym amsicrhau bodpobl yn gallu manteisio argyfleoedd ,gwella llwybrau i yrfaoedd achefnogi mwy obobl i gael mynediad atgyflogaeth yn ydiwydiannau creadigol – abydd cefnogi sylfaen sgiliau cynaliadwy adatblygu talentyn flaenoriaeth allweddol i Gymru Creadigol. ”