Rydym yn hynod o falch i gyhoeddi bod dau o’n cyn brentisiaid ac un o’n cyflogwyr prentisiaid wedi ennill yng ngwobrau QSA 2018.
Cynhelir y noson wobrwyo yng Nghampws Caerdydd Canolog Coleg Caerdydd a’r Fro ar nos Fercher y 14eg o Fawrth. Mae gwobrau QSA yn dathlu llwyddiant prentisiaid a chyflogwyr arbennig y QSA yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mynychodd tua 200 o westeion, gan gynnwys enillwyr y gwobrau a’u gwesteion, eu partneriaid a darparwyr y QSA, ynghyd â chynrychiolwyr o’r llywodraeth ac o fyd addysg a’r gymuned fusnes yng Nghymru a thu hwnt.
Dewiswyd cyn brentisiaid Sgil Cymru, Laura Thorne a Thomas Watkins, ar y cyd, fel enillwyr y wobr Prentis Diwydiannau Creadigol y Flwyddyn. Gan fod y ddau ohonynt mor haeddiannol o’r wobr, doedd y panel ddim yn medru dewis rhyngddynt.
Yn ogystal â hyn enillodd ITV Cymru Wales y wobr am Gyflogwr Canolig y Flwyddyn o ganlyniad i’w hymrwymiad parhaus i hyfforddi talent newydd trwy prentisiaethau.
Hoffai tîm Sgil Cymru llongyfarch pob enillydd yng Ngwobrau QSA 2018. Roedd hi’n bleser dathlu llwyddiant prentisiaid a chyflogwyr ar y cyd gyda’r gwahanol sectorau.